Mwy o arian ar gyfer atal llifogydd yn y gyllideb
- Cyhoeddwyd
Bydd toriadau i wariant cyfalaf cynlluniau atal llifogydd gan Lywodraeth Cymru yn llai na'r disgwyl.
Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau wrth gyhoeddi cyllideb derfynol 2017/18 y llywodraeth.
Mae'r gyllideb yn cynnwys £33m yn ychwanegol i gynlluniau atal llifogydd, £53m ar gyfer tai a £50m ar gyfer prosiectau adfywio yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Bydd £83m yn ychwanegol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth dros y pedair blynedd nesaf hefyd yn cynnwys £50m tuag at ffordd osgoi yr A483 ger Llandeilo, Sir Gâr.
Mae'r arian ychwanegol o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref gan Lywodraeth Prydain.
Mae'r cynlluniau gwario yn symiau gweddol fach pan edrychir ar gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru sef tua £1.4bn ar gyfer 2017/18.
Cafodd gweinidogion eu beirniadu pan gafodd y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi am ei bod yn cynnwys cynlluniau i dorri gwariant ar "rheoli risg llifogydd a dŵr" dros gyfnod o bedair blynedd o £30.4m yn 2016/17 i £18m yn 2020/21.
Mae cyhoeddiad ddydd Mawrth nawr yn golygu y bydd y toriadau hynny yn llai.
Bydd £150m o arian ar wahan ar gael er mwyn "rheoli risg llifogydd a'r arfordir" o 2018 tan 2022 ac fe all cynghorau fenthyg yr arian.
Bydd y gyllideb derfynol yn cynnwys £10m i helpu busnesau ymdopi gyda newidiadau i ardrethi.
Mae'r gyllideb gyfan, gan gynnwys gwariant o ddydd i ddydd ar wasanaethau cyhoeddus, yn codi 2.7% i £14.95bn yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi.
Mae'n cynnwys £240m yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd a £10m ar gyfer cynllun peilot fydd yn darparu 30 awr o ofal plant am ddim i blant 3 a 4 oed.
Ond roedd toriadau i rai meysydd o fewn llywodraeth leol a phrosiectau cymunedol a daeth diwedd i gynllun £20m Her Ysgolion Cymru.
Pleidlais yn 2017
Mae Plaid Cymru wedi cytuno i gefnogi'r gyllideb fel rhan o gytundeb sydd yn golygu bod rhyw £120m yn cael ei wario ar eu blaenoriaethau nhw.
"Mae hwn yn gytundeb hanesyddol fydd yn gweld miliynau o bunnau yn cael ei fuddsoddi mewn iechyd, addysg ac isadeiledd er mwyn dod â buddion gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru," meddai llefarydd y blaid ar gyllid, Adam Price.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r llywodraeth fodd bynnag, gan ddweud ei fod yn ddim ond "stamp ar 12 mis arall o fethiant Llafur".
"Does dim rheswm i gredu y bydd y gyllideb hon yn darparu'r lefel angenrheidiol o ffyniant, cyrhaeddiad addysgol a darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ystyried bod sawl un o'r gorffennol wedi methu," meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr.
Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y gyllideb derfynol ac yn pleidleisio arni yn y flwyddyn newydd.