Ffrae iaith dros arwyddion 'brand' M&S yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae yn corddi rhwng cynghorwyr Ceredigion a phenaethiaid Marks and Spencer ynglŷn ag arwyddion dwyieithog yn eu siop newydd yn Aberystwyth.
Dywed M&S bod "Foodhall" yn enw brand ac felly ni ddylid ei gyfieithu, ond mae'r cynghorwyr yn anghytuno.
Penderfynodd pwyllgor cynllunio'r sir i ohirio rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer arwyddion yn y siop newydd, fydd yn agor yn y gwanwyn.
Dywedodd Paul Hinge, aelod o bwyllgor cynllunio Ceredigion, eu bod yn derbyn na ddylid cyfieithu'r enw brand ei hun, Marks and Spencer.
"Rydym yn deall na allwch chi ddweud y dylai Café Nero neu Starbucks fod yn Gymraeg, a dyw hynny ddim yn digwydd," meddai.
"Ond fe ddylid cyfieithu pethau fel foodhall, clothing, toilets - y rhain i gyd - i'r Gymraeg."
Dadl M&S yw bod Foodhall yn rhan o'u brandio ac nad yw wedi ei gyfieithu mewn unrhyw leoliad arall.
"Pe baen nhw'n gallu rhoi tystiolaeth nad yw wedi ei gyfieithu yn unrhyw le arall, yna fe allwn edrych ar y mater unwaith eto," meddai Mr Hinge.
Roedd swyddogion cynllunio'r sir wedi argymell rhoi caniatâd i'r arwyddion, ond penderfynodd cynghorwyr i ohirio gwneud penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran M&S: "Mae'r term Foodhall yn rhan o'n brandio ac nid yw wedi ei gyfieithu mewn unrhyw siop arall, yng Nghymru neu dramor.
"Rydym wedi cydweithio yn agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn cynnig arwyddion dwyieithog a gwasanaethau dwyieithog yn ein siopau yng Nghymru, gan gynnwys addasu bathodynnau adnabod fel bod pobl yn gwybod pa aelod o staff sy'n medru'r Gymraeg."