Iechyd meddwl plant: Elusen yr NSPCC yn pryderu
- Cyhoeddwyd
Cafodd 18,000 o unigolion eu cyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yng Nghymru yn 2016 - gyda 1,000 ohonyn nhw'n aros dros chwe mis am eu hapwyntiad cyntaf, yn ôl elusen yr NSPCC.
Ar ôl cael eu cyfeirio at y gwasanaeth, fe ddylai pobl gael asesiad CAMHS o fewn 28 diwrnod.
Mae NSPCC Cymru yn dweud bod y sefyllfa yn achos pryder.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bu gostyngiad o 44% yn nifer yr unigolion a arhosodd dros chwe mis o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
'Brawychus'
Dywedodd pennaeth gwasanaethau NSPCC Cymru, Des Mannion bod problemau amlwg yn parhau, er bod rhai elfennau o'r gwasanaeth wedi gwella.
"Mae'r ffigyrau yma'n dangos maint y sefyllfa o ran yr oedi yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant, ac mae'r sefyllfa yn achos pryder," meddai.
"Mae'n eithaf brawychus bod rhai unigolion ifanc yn aros dros chwe mis am eu hapwyntiad cyntaf.
"Mae buddsoddi mewn gwasanaethau fel hyn ar gyfer plant a phobol ifanc yn fuddiol o ran llwyddiant eu triniaeth, a hefyd o ran rhwystro'r galw am ymyrraeth a chefnogaeth bellach yn eu bywydau fel oedolion."
Ardaloedd eraill
Yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, doedd neb wedi aros dros chwe mis am driniaeth yn 2015/16 - dyma'r unig fwrdd iechyd heb oedi o'r fath.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn gyfrifol am wasanaethau CAMHS yn ei ardal ei hun yn ogystal â'r ddarpariaeth yn ardal byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro.
Fe arhosodd 467 o bobol ifanc dros chwe mis am eu hapwyntiad cyntaf yn y tair ardal yma yn yr un cyfnod.
Yn y gogledd, bu'n rhaid i 99 o bobl aros dros chwe mis am apwyntiad drwy Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, tra bod 433 o blant a phobol ifanc wedi aros am yr un cyfnod yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Bu 200 o unigolion yn disgwyl yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
'Amseroedd aros wedi gwella'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ystadegau'n dangos bod cynnydd o 16% wedi bod yn nifer yr unigolion sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau CAMHS yn y 12 mis hyd at Hydref 2016 o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
"Wrth gymharu'r data o fis Hydref 2015 â mis Hydref 2016, mae'r nifer sy'n disgwyl dros 4 wythnos wedi lleihau 31% tra bod rheiny arhosodd dros 26 wythnos wedi lleihau 44%.
"Mae hyn o ganlyniad i waith caled y Gwasanaeth Iechyd a'i bartneriaid drwy Raglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ddechreuodd ym mis Chwefror 2015, wedi ei gefnogi gan fuddsoddiad gwerth bron i £8m yng ngwasanaethau CAMHS gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'n cymryd amser i recriwtio staff a gwella gwasanaethau, ond mae'r ystadegau yn dangos yn glir er bod cynnydd wedi bod yn nifer y cyfeiriadau, mae amseroedd aros wedi gwella yn sylweddol."