Perchennog lle tatŵ'n 'cael ei haeddiant', medd cwsmer

  • Cyhoeddwyd
Molly Ormond
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Molly Ormond sawl prawf gwaed ar ôl cael tyllu'i chlust yn stiwdio John Cochrane

Mae merch 19 oed a gafodd brofion am HIV a hepatitis ar ôl cael tatŵ yng Nghasnewydd wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn falch fod y perchennog wedi dod o flaen llys.

Fe wnaeth y perchennog, John Cochrane, bledio'n euog i 60 o droseddau iechyd a diogelwch wedi i nifer o'i gwsmeriaid ddatblygu heintiau ar eu crwyn.

Bu'n rhaid i gannoedd o gwsmeriaid eraill gael profion am heintiau sy'n cael eu lledu drwy'r gwaed.

Fe gafodd Molly Ormond dyllu ei chlust yn stiwdio 'Blue Voodoo' oedd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sun Tattoo Studio' a 'Flesh Wound'.

Amhroffesiynol

Dywedodd fod yna awyrgylch amhroffesiynol yn y siop.

"Roedd yna ddadlau yno drwy'r amser rhwng cydweithwyr a phobl oedd wedi mynd yno i gael tatŵ neu dyllu," meddai.

"Roedd cwsmeriaid a staff yn ymladd - roedd yna ffeit tra'r oeddwn i yno - does gen i ddim syniad pam nes i ddim cerdded allan."

Yn 2014 fe wnaeth rhai cwsmeriaid ddatblygu heintiau difrifol ar ôl cael tyllu'u clustiau yn y stiwdio. Bu'n rhaid i bedwar ohonyn nhw fynd i'r ysbyty a chael llawdriniaeth.

Wedi i Gyngor Casnewydd gynnal ymchwiliad fe wnaeth y perchennog John Cochrane gyfadde' achosi'r heintiau ac o fethu â chadw nodwyddau mewn cynhwysyddion addas.

Fe gafodd ddedfryd o 16 wythnos o garchar - wedi ei ohirio am ddwy flynedd - a gorchymyn i wneud 150 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Yn ogystal fe gollodd Cochrane yr hawl i gofrestru i wneud gwaith tatŵ a thyllu.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd stiwdio John Cochrane ar Heol Commercial yng Nghasnewydd

Arweiniodd yr ymchwiliad at Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwneud profion gwaed ar gannoedd o bobl, ac fe sefydlwyd clinig arbennig i wneud profion am HIV, hepatitis B a hepatitis C.

Yn ffodus i Ms Ormond, dangosodd y canlyniadau nad oedd wedi cael ei heintio, ond mae'n falch bod Cochrane wedi cael ei ddedfrydu.

"Rwy'n teimlo bod hyn wedi cymryd oes i ddigwydd," meddai, "ond yn sicr mae e wedi cael yr hyn oedd yn ei haeddu."