Gwyntoedd cryfion yn achosi trafferthion

  • Cyhoeddwyd
GwyntFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd/Getty Images

Mae'r gwyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Gwener wrth i storm Barbara daro'r wlad.

Daeth y rhybudd i rym am 07:00 ar gyfer Conwy, Ynys Môn a Gwynedd, ac fe ddywedodd Y Swyddfa Dywydd y bydd y rhybudd yn berthnasol ar gyfer Cymru gyfan rhwng hanner dydd a hanner nos.

Daeth cyfnod o law trwm gyda gwyntoedd cryfion 50-60mya gan arwain at amodau gyrru gwael. Roedd Traffig Cymru wedi cyhoeddi rhybudd am hynny ar draws yr A55 ar ei hyd.

Gallai'r gwyntoedd hyrddio hyd at 70mya mewn rhai mannau agored ac arfordirol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd goeden ei chwythu i lawr gan y gwynt, gan rwystro ffordd Lôn Cefn Tŷ ger Bangor

Amharu ar deithio

O ganlyniad i'r storm, bu cyfyngiad cyflymder o 30mya ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn, gydag un lôn ar gau i'r ddau gyfeiriad ar Bont Hafren hefyd, ond fe godwyd y cyfyngiad rhwng Gwynedd a Môn yn ddiweddarach.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio y bydd oedi ar wasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi am fod trenau yn teithio yn arafach oherwydd y gwyntoedd.

Mae cwmni Irish Ferries hefyd wedi canslo chwe gwasanaeth cyflym rhwng Caergybi a Dulyn oherwydd yr amodau ar y môr, ond mae teithwyr yn cael eu symud i fferïau arferol, sydd yn gallu croesi.

Fe wnaeth gwynt o 75mya daro Mona ar Ynys Môn brynhawn Gwener, a cafodd to adeilad Ysgol Rhosgadfan ger Caernarfon ei ddifrodi hefyd.

Mae Castell y Waun ac Erddig yn Wrecsam ar gau, ac mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug wedi gorfod cau ei ardal sglefrio o ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion.

Mae Stryd Lloyd yn Llandudno ynghau hefyd oherwydd pryderon y bydd gwynt yn chwythu sgaffaldiau oddi ar Neuadd y Dref.

Disgrifiad o’r llun,

Y sgaffaldiau ar Neuadd y Dref Llandudno