Disgwyl nofwyr o ar draws y byd ym Mhorthcawl

  • Cyhoeddwyd
PorthcawlFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae ymwelwyr o ar draws y byd wedi bod yn nofio ym môr Porthcawl ar fore Dydd Nadolig.

Dyma'r 52fed gwaith i'r digwyddiad gael ei gynnal, a'r nod yw codi arian ar gyfer elusennau lleol.

900 oedd wedi cofrestru i nofio'r llynedd ond gobaith y trefnwyr oedd y bydd mwy nac erioed yn cymryd rhan eleni.

Yn y gorffennol mae pobl o lefydd mor bell â Seland Newydd a Chanada wedi nofio yn y môr.

Dywedodd Marilyn Smith, un o'r trefnwyr: "Mae rhai sydd yn cefnogi'r digwyddiad yn teithio adref ar gyfer y Nadolig.

"Felly rydyn ni yn cael nofwyr a gwylwyr o bob man ym Mhrydain ac o dramor hefyd.

"Y llynedd fe ddaeth ymwelwyr o Seland Newydd, Canada a'r Almaen heblaw am y rhai sydd yn dod o dde Cymru.

"Maen nhw i gyd yn dod i fwynhau bore llawen yn Sandy Bay, Porthcawl."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Eleni LATCH - sef elusen ganser i blant - yw'r brif elusen mae'r pwyllgor trefnu wedi dewis i godi arian. Cafodd dros £8,000 ei godi yn 2015.

Y thema gwisg ffansi eleni yw 'Popeth Nadoligaidd'.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor trefnu, Dave King eu bod eisiau codi mwy o arian y tro yma.

Roedd y digwyddiad yn dechrau am 11:45 gyda'r nofwyr profiadol Vic Davies a Chris Hughes, sydd wedi nofio bob blwyddyn yn arwain y nofwyr eraill lawr i'r môr.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service