Record Byd i'r Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
![Logo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/9C15/production/_92975993__92557164_uwchgynghraircymru.jpg)
Mae'r Seintiau Newydd wedi dod yn gyfartal â record byd wedi eu buddugoliaeth dros Dderwyddon Cefn.
Mae'r clwb o Groesoswallt nawr wedi ennill 26 gêm yn olynol ymhob cystadleuaeth y tymor hwn, ac mae hynny'n gyfartal â record clwb Ajax o'r Iseldiroedd a osodwyd 44 mlynedd yn ôl.
Roedd y dasg i'r Seintiau yn gymharol hawdd ddydd Llun, ac fe enillon nhw o 4-0. Byddai buddugoliaeth arall yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar nos Wener, 30 Rhagfyr, yn gosod record newydd i guro un Ajax.
Canlyniadau dydd Llun
Airbus UK Brychdyn 0 - 3 Gap Cei Connah
Aberystwyth 1 - 0 Y Drenewydd
Y Bala 6 - 1 Y Rhyl
Bangor 2 - 1 Llandudno
Caerfyrddin 0 - 0 Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Y Seintiau Newydd 4 - 0 Derwyddon Cefn