Pryder am effaith deddf i daclo 'cyffuriau cyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Dyw tri o'r pedwar llu heddlu yng Nghymru ddim wedi erlyn na rhybuddio unrhyw un er gwaethaf cyflwyno deddf newydd i daclo cyffuriau cyfreithlon, neu legal highs.
Ym mis Mai cafodd ei wneud yn anghyfreithlon i gynhyrchu, dosbarthu, gwerthu neu gyflenwi'r cyffuriau hynny.
Dim ond Heddlu De Cymru sydd yn dweud eu bod wedi delio ag achosion yn ymwneud â sylweddau seicoweithredol newydd (NPS).
Mae elusenau cyffuriau wedi codi pryderon bod y ddeddf wedi golygu bod y farchnad am gyffuriau o'r fath wedi mynd yn "danddaearol".
Dywedodd heddluoedd Gogledd Cymru, Dyfed Powys a Gwent nad oedden nhw wedi erlyn na rhybuddio unrhyw un yn y chwe mis cyntaf ers i'r ddeddf gael ei phasio, ac nad oedden nhw wedi cau unrhyw fusensau chwaith.
'Sgileffeithiau gwael'
Yn ôl Ifor Glyn, cyfarwyddwr rhanbarthol elusen Drugaid Cymru, mae pobl "yn bendant" yn dal i ddefnyddio'r 'cyffuriau cyfreithlon' hyd yn oed ar ôl y newid yn y gyfraith.
"Mae'n siŵr mai'r unig beth sydd wedi digwydd yw eu bod wedi mynd o gael eu gwerthu mewn siopau i gael eu gwthio at y farchnad ddu neu'n anghyfreithlon dros y we," meddai.
"Mae'r sylweddau seicoweithredol newydd yma yn dod gyda thipyn o bryder a llawer o sgileffeithiau gwael."
Bellach mae gan yr heddlu bwerau i gau siopau sydd yn gwerthu teclynnau cymryd cyffuriau yn ogystal â dinistrio unrhyw sylweddau maen nhw'n eu canfod, ac fe all troseddwyr gael eu carcharu am hyd at saith mlynedd.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi arestio un person ers i'r cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC ddod i law.
"Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi profi'n effeithiol iawn wrth sicrhau nad yw NPS yn cael eu gwerthu dros y cownter," meddai'r arolygwr Nick McLain o Heddlu Gwent.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys bod swyddogion wedi bod yn sicrhau bod busnesau'n ymwybodol o'r ddeddfwriaeth newydd.
Dyw heddluoedd Gogledd Cymru a De Cymru ddim wedi gwneud sylw.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd26 Mai 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd29 Mai 2015