Haneru tollau Pont Hafren 'yn denu prynwyr tai o Loegr'
- Cyhoeddwyd
Mae gwerthwyr tai yn Sir Fynwy yn dweud bod 80% o'r prynwyr bellach yn dod o ardal Bryste, a hynny gan bod disgwyl i dollau Pont Hafren gael eu haneru yn 2018.
O ganlyniad, mae ffigyrau'n awgrymu bod prisiau tai yn yr ardal wedi cynyddu'n gynt na'r cyfartaledd ar draws Cymru.
Fe wnaeth cost y tollau godi i £6.70 ddydd Calan, ond fe fyddan nhw'n gostwng y flwyddyn nesaf ac mae nifer o wleidyddion wedi galw am gael eu gwared yn gyfan gwbl.
"Mae prisiau tai ym Mryste yn wallgof o uchel, felly mae pobl yn gwybod bod y tollau yn gostwng y flwyddyn nesaf ac yn gobeithio cael bargen [yng Nghymru]," meddai'r asiant Charles Haven.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae prisiau tai yn ardaloedd Cas-gwent, Cil-y-coed a Magwyr, sydd o fewn cyrraedd i Fryste, wedi cynyddu 10%.
Ond mae prisiau ar ochr Lloegr yr Afon Hafren wedi cynyddu 37%, ac mae hynny'n golygu bod de ddwyrain Cymru'n cael ei weld fel ardal gymharol ratach.
"Mae galw mawr am dai. Does dim digon, a dweud y gwir," meddai Mr Heaven, perchennog Crown Estate Agents yng Nghas-gwent.
"Mae tai yn cael eu prynu o fewn dyddiau, weithiau oriau, ac mae'r prisiau'n hedfan i fyny.
"Gyda thrydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru, y Metro a'r ffordd liniaru M4 arfaethedig, a'r cefn gwlad prydferth yn ne Sir Fynwy a Dyffryn Gwy, mae'n le dymunol i fyw."
Mae Nathan Reekes, perchennog Nathan James Estate Agents yng Nghil-y-coed a Magwyr, yn dweud ei fod yntau wedi sylwi ar batrwm tebyg.
Daeth ar draws un cwpl a lwyddodd i brynu tŷ pedair ystafell wely gyda garej yn Sir Fynwy am £295,000, a hynny ar ôl gwerthu tŷ llai ei faint ym Mryste am £390,000.
"Dyna'r math o fusnes 'dyn ni wedi bod yn ei wneud yn y chwe mis diwethaf achos ers i'r llywodraeth gyhoeddi y byddan nhw'n gostwng tollau ar y bont, mae 80% o fy mhrynwyr wedi dod o'r ochr arall i Bont Hafren," meddai.
"Mae'n hawdd cyrraedd Bryste, canolbarth Lloegr, y de orllewin, de Cymru, Llundain a Maes Awyr Heathrow, ond mae gan dde Sir Fynwy hefyd y fantais o fod yn lled-wledig gyda golygfeydd gwych."