Ailagor Canolfan Gwlyptir Llanelli wedi achos o ffliw adar

  • Cyhoeddwyd
hwyiaid

Mae canolfan wlypdir yn Sir Gâr wedi ailagor ar ôl bod ar gau am naw diwrnod yn dilyn achos o ffliw adar.

Roedd aderyn gwyllt wedi cael ei ganfod â straen H5N8 o ffliw adar mewn aber afon ger Canolfan Gwlyptir Llanelli.

Dywedodd y ganolfan ddydd Sul bod yr adar yn "edrych yn iawn" ac y byddan nhw'n parhau i gadw llygad ar y sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai dyma'r tro cyntaf i'r straen H5N8 gael ei ddarganfod mewn aderyn gwyllt ym Mhrydain.

Cafodd mesurau eu rhoi yn eu lle i gyfyngu ar symud adar yn dilyn achosion o'r afiechyd yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Mae'r risg bod yr afiechyd yn effeithio ar bobl yn isel.