Shirley Bassey yn 80
- Cyhoeddwyd

Y Fonesig Shirley Bassey yn 2016
Mae'r fytholwyrdd Shirley Bassey yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 ar 8 Ionawr 2017.
Cafodd ei geni yn nociau Caerdydd yn 1937 gan ddod yn enwog dros y byd am ei llais pwerus a'i steil dramatig o ganu caneuon eiconig fel Diamonds are Forever, Goldfinger a Big Spender ac mae hi'n dal i berfformio.
Dyma olwg nôl mewn lluniau dros ei bywyd a'i gyrfa ddisglair - a'i ffrogiau ffabiwlys - hyd yma:

Roedd Shirley Bassey yn 19 pan ryddhaodd ei sengl gyntaf, Burn My Candle, yn 1956 a gafodd ei wahardd gan y BBC am ei eiriau 'awgrymog'

Yn y rhaglen Shirley Comes Home yn 1957 ffilmiwyd Shirley yn cwrdd â phlant The Rainbow Club o ardal Dociau Caerdydd

Bassey gyda ei dwy ferch, Sharon a Samantha, ym maes awyr Heathrow, Llundain, yn 1966. Roedd Shirley yn 16 pan gafodd hi Sharon ac fe wnaeth ei rhoi i'w magu gan ei chwaer. Bu farw Samantha ym Mryste pan oedd yn 21 oed. Mae ganddi fab mabwysiedig, Mark, hefyd.

Drwy'r 60au roedd Shirley ar frig y siartiau ac aeth ei fersiwn o Goldfinger o'r ffilm James Bond i rif wyth yn America

Daeth yr albym Something yn 1970 â Bassey yn ôl i boblogrwydd gyda ymddangosiadau niferus ar Top of the Pops fel hwn yn 1971

Roedd sêr mwya'r 70au yn ymddangos ar sioe Morecambe and Wise

Erbyn 1976 roedd gan Bassey ei chyfres ei hun, The Shirley Bassey Show

Yn Jamaica yn 1976 gyda chriw ffilmio'r BBC

Roedd hi'n dal yn westai cyson ar Top of the Pops yn 1978. Yr un flwyddyn fe blediodd yn euog i fod yn feddw ac afreolus "ar ôl gweiddi yn y stryd a gwthio plismon".

Wyneb yn wyneb â hi ei hun yn Madam Tussauds, 1999

Erbyn diwedd y nawdegau roedd Shirley Bassey'n gyfarwydd i gynulleidfa newydd ar ôl canu ar y trac ddawns History Repeating gan y Propellerheads

Cafodd ei gwneud yn Fonesig Shirley Bassey yn 2000

Gwisgodd Shirley Bassey ei ffrog draig goch enwog i ganu anthem World In Union Cwpan Rygbi'r Byd gyda Bryn Terfel yn 2000

Ailymunodd â Bryn Terfel yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor yn 2006 ac er ei bod wedi tywallt y glaw drwy ei pherfformiad fe wnaeth yn siŵr fod yr haul yn disgleirio ar y llwyfan.

Dim llai na welingtons diamwnt i Glastonbury 2007

Teyrnged BAFTA i James Bond, 2002: Gyda thair cân Bond dan ei belt, mae Shirley Bassey yn 'Bond Girl' anrhydeddus

Gyda thros 60 mlynedd yn y busnes mae Shirley Bassey yn dal i ddisgleirio.

A'r ferch o Tiger Bay erbyn hyn yn byw yn Monaco