Angen plannu mwy o goed yng Nghymru yn ôl masnachwyr

  • Cyhoeddwyd
coed

Fe fydd 'na brinder coed yng Nghymru os na fydd 'na blannu sylweddol dros y blynyddoedd nesa', yn ôl un o fusnesau blaenllaw y diwydiant.

Mae cwmni Clifford Jones, sy'n rhedeg melin goed yn Rhuthun, yn dweud mai 100 hectar o goed gafodd eu plannu yma y llynedd.

Targed Llywodraeth Cymru yw plannu 2,000 hectar y flwyddyn.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru - y corff sy'n gyfrifol am yr amgylchedd ar ran y llywodraeth - eu bod yn plannu digon o goed ar hyn o bryd.

Mae cwmni Clifford Jones yn cynhyrchu 2.5 milion o byst ar eu safleoedd yn Rhuthun ac yn Gretna, Yr Alban, ac maen nhw'n cyflogi mwy na 80.

"Mae 'na farchnad enfawr i'n coed," meddai cadeirydd y cwmni, Richard Jones.

"Fe fuasa' pob melin goed yng Nghymru yn dyblu neu dreblu faint maen nhw'n ei gynhyrchu pe byddai 'na goed i fwydo'r felin.

"Rydyn ni'n chwilio am ffyrdd o amrywio'n gwaith, fel ein bod yn gwneud y gorau o'r coed sy'n dod drwy'r drws, ond mae 'na lai a llai ohono oherwydd diffyg buddsoddi ers y 1990au."

Haint ar goed

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli 117 hectar o'r 306 hectar o goetir yng Nghymru.

Dywedodd Sian Williams ar ran y corff eu bod yn hyderus bod digon o goed yn cael eu plannu.

"Mae ganddon ni'r un faint o goed yn cael ei plannu rŵan â thua pum mlynedd yn ôl, a 'dan ni'n gyson wedi bod yn plannu'r un faint bob blwyddyn," meddai.

"'Dan ni wedi cael ein taro'n galed gan haint ar y coedydd llawryf y flwyddyn yma.

"O ganlyniad i hynny, 'dan ni wedi bod yn edrych ar y mathau o goed 'dan ni'n eu plannu, a thrio cael coedwigoedd cymysg yn lle rhai ag un math o goed."

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae'r diwydiant yn cyflogi dros 11,000 o bobl.