Apêl i Americanwyr am ddarnau coll castell yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion tŷ o gyfnod oes y Tuduriaid yn Nyffryn Conwy yn apelio ar Americanwyr i'w cynorthwyo i ddod o hyd i ddarnau o ystafell yn eu cartref sydd ar goll.
Fe gafodd darnau pren hynafol, gan gynnwys paneli derw o'r nenfwd a lle tân o ystafell y parlwr derw yng Nghastell Gwydir ger Llanrwst, eu gwerthu i ddyn busnes o Efrog Newydd yn 1921, a dydyn nhw ddim wedi eu gweld ers y 1930au.
Mae perchnogion presennol Castell Gwydir yn gobeithio dod o hyd i'r darnau a'u dychwelyd i Gymru.
Dywedodd y perchennog, Judy Corbett: "Fe brynwyd y parlwr derw gan William Randolph Hearst, dyn busnes papurau newydd yn America yn 1921.
"Fe gafodd y darnau pren eu hanfon i Efrog Newydd a'u gosod mewn ystafell yn ei gartref yno. Fe gafodd ei gartref ei ddinistrio yn rhannol yn y 1930au ac fe symudwyd y darnau pren i fan arall ond does dim son amdanyn nhw bellach."
Nid darnau o'r parlwr derw oedd yr unig eitemau i gael eu gwerthu i Hearst yn 1921. Fe werthwyd paneli o'r ystafell fwyta iddo hefyd.
Mae'r paneli yma bellach wedi eu prynu yn ôl gan y perchnogion ac wedi ei gosod yn ei man gwreiddiol yn yr ystafell fwyta.
Fe ddaeth y perchnogion o hyd i'r paneli mewn warws oedd yn berchen i amgueddfa fetropolitan Efrog Newydd yn 1996.
Ychwanegodd Ms Corbett "Rydym yn gobeithio y gwnaiff rhywun o America adnabod y darnau pren drwy edrych ar y lluniau. Mi faswn wrth ein boddau yn dod o hyd i ddarnau o'r parlwr derw sydd ar goll." meddai.