To bach: Pam a phryd?
- Cyhoeddwyd
Un sy'n cynhyrfu pan mae'n gweld to bach yn y lle anghywir ydy'r canwr, cyfansoddwr a'r cyfieithydd Geraint Lovgreen.
Mae'n casglu lluniau o'r acen yn cael ei defnyddio'n ddiangen ar arwyddion a phosteri drwy Gymru.
Fe ofynnon ni iddo fo sut ar wyneb daear mae gwybod pryd i roi to bach a phryd i beidio?
Toeau bach... mi ddylai fod yn syml, yn 'dylai? Llafariad hir = to bach, byr = dim to bach. Ond dydi hi ddim mor hawdd â hynny.
Er enghraifft, 'to bach' - mae 'to' a 'bach' yn hir. Ond os nad oes cytsain ar ddiwedd gair mae'r llafariad bob amser yn hir, felly does dim eisiau to bach ar 'to', na geiriau fel 'da' a 'sw'.
Ond mae 'na eithriadau i hyn hefyd, sef 'tŷ' (achos byddai 'dy dŷ' yn edrych yn od heb y to bach), 'iâ' (i ddangos nad gogleddwr yn dweud 'ie' sydd yma) ac 'â' (with) yn hytrach nag 'a' (and).
O flaen n, l ac r
Yn draddodiadol, dim ond o flaen n, l ac r mae angen to bach, dim ond ar a, e, o, w, ac y (mi ddown ni at i ac u mewn munud), a dim ond mewn geiriau unsill. Mae'r pum llafariad yna'n fyr fel arfer - e.e. llan, pen, hon, hwn, byr.
Felly mae angen to bach ar bob a, e, o, w, neu y hir o flaen n, l neu r, e.e. cân, llên, lôn, cŵn, cŷn.
Ond - i gymhlethu pethau, mae dau air cyffredin sy'n torri'r rheol yma am ryw reswm, sef 'hen' a 'dyn'. Felly 'hen ddyn', nid 'hên ddŷn'.
Mae i ac u yn hir bob amser ac felly does dim angen to bach, e.e. min, hil, sir, llun, cul, pur.
Y cytseiniaid eraill
Fel egwyddor cyffredinol does dim angen to bach o flaen b, ch, d, dd, f, ff, g, ll, s a th achos mae'r llafariad bob amser yn hir - e.e. mab, bach, tad, lladd, cof, rhaff, mwg, holl, nos, cath. Ac mae geiriau sy'n gorffen efo m bob amser yn fyr, fel mam, cam (ond bydd angen to bach ar eiriau sydd wedi'u benthyg o'r Saesneg, fel gêm).
Geiriau benthyg
Mae geiriau benthyg yn tueddu i ddrysu'r system, fel y gair Saesneg 'mug' - sut mae gwahaniaethu rhwng 'mwg' (mug) a 'mwg' (smoke)? A'r un fath efo 'pin' (pin) a 'pin' (pine). Felly tueddwn i ysgrifennu 'coed pîn', a 'mŵg', er mai 'coed pin' a 'mwg' sy'n dechnegol gywir (ac acen ddisgynedig ar y geiriau byr 'pìn' a 'mẁg' - ond stori arall ydi honno).
O'r Saesneg y daw pob gair sy'n gorffen efo c, p a t, ac felly mae angen to bach i wahaniaethu rhwng geiriau fel 'smoc' (dilledyn) a 'smôc' (fel yn 'mynd allan am smôc') neu 'tap' (dŵr) a 'tâp' (mesur). Ac os ydych chi am Gymreigio gair fel Coke mae'r to bach yn reit bwysig.
Geiriau â mwy nag un sillaf
Yn gyffredinol, dim ond mewn geiriau unsill y mae angen to bach. Ond weithiau bydd ei angen ar ddiwedd gair hirach i ddangos bod y sillaf olaf yn hir - e.e. 'caniatâd', 'promenâd'. (Ond os mai llafariad sydd ar ddiwedd y gair, acen ddyrchafedig ydi'r rheol, e.e. 'caniatáu', 'gwacáu'.)
Syml, dydi? Wel, nach'di. Ond gall cofio'r pedair "rheol" sylfaenol yma helpu:
O flaen n, l ac r - to bach os ydi'r llafariad yn hir
Y cytseiniaid eraill - dim to bach
Dim cytsain ar y diwedd - dim to bach
Geiriau benthyg - to bach os ydi'r llafariad yn hir