Chwaraeon: Pump o Gymru i'w gwylio yn 2017

  • Cyhoeddwyd
Campau

Gyda 2016 wedi bod yn flwyddyn mor enfawr i chwaraeon yng Nghymru, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr sydd wedi dewis pum person ifanc ym myd y campau i'w gwylio yn 2017.

Ben Woodburn (17 oed)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae o wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar gan mai fo ydy'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio i dîm cyntaf Lerpwl.

Yn 17 mlwydd a 45 diwrnod oed fe ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn Leeds United yn rownd wyth olaf Cwpan y Gynghrair i sgorio ail gôl y cochion.

Er iddo gael ei eni yn Lloegr mae o wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru. Fe sgoriodd ddwy gôl i'r tîm o dan 19 yn eu buddugoliaeth ddiweddar o 6-2 yn erbyn Lwcsembwrg.

Mae o'n aelod rheolaidd o garfan tîm cyntaf Lerpwl bellach. Tybed os gwelwn ni o yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mawrth?

Keelan Giles (18 oed)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyma i chi chwaraewr sy'n cyffroi'r cefnogwyr bob tro mae o'n cael y bêl yn ei ddwylo.

Mae o'n barod yn ddewis cyntaf yn nhîm y Gweilch ac fe sgoriodd hat-trick cofiadwy oddi cartref yn Lyon yng Nghwpan Her Ewrop yn gynharach yn y tymor.

Ar ôl iddo serennu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i'r tîm o dan 20 y tymor diwethaf, cafodd ei ychwanegu at y brif garfan ar gyfer y daith i Seland Newydd dros yr haf - er na chwaraeodd unrhyw ran yn y gemau prawf.

Dydi o dal heb ennill ei gap cyntaf, er iddo gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref hefyd. Does bosib y daw ei gyfle yn ystod y Chwe Gwlad eleni os bydd yn parhau i sgorio ceisiau'n rheolaidd i'w ranbarth.

Lauren Williams (17 oed)

Ar ôl cael ei hysbrydoli gan lwyddiant Jade Jones yn y Gemau Olympaidd yn 2012, fe symudodd i Fanceinion gyda'i mam i fyw mewn carafan pan yn 14 mlwydd oed er mwyn gallu cystadlu yng nghamp taekwondo.

Mae hi eisoes wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop ac ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn y dosbarth -67kg.

Heb os y nod i Williams fydd efelychu llwyddiant Jade Jones ac ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020.

Manon Lloyd (20 oed)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyma i chi ferch greodd argraff fawr ar y byd seiclo yn 2016.

Fe enillodd hi ddwy fedal aur yng Nghwpan y Byd Beicio Trac yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Cyn hynny fe enillodd fedal efydd fel rhan o dîm ymlid Prydain ym Mhencampwriaethau Beicio Trac Ewrop yn Ffrainc ym mis Hydref.

Bydd hi'n gobeithio cael y cyfle i gystadlu ym Mhencampwriaethau Beicio Trac y Byd yn Hong Kong ym mis Ebrill, cyn dilyn yn ôl traed Cymry eraill megis Becky James ac Elinor Barker drwy gystadlu ar y trac yn y Gemau Olympaidd yn 2020.

Aneurin Donald (20 oed)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyn-gapten Lloegr, Michael Vaughan eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn disgwyl gweld Donald yn chwarae criced rhyngwladol yn y dyfodol.

Mae cefnogwyr Morgannwg yn dal i siarad am ei fatiad bythgofiadwy yn erbyn Sir Derby ym Mae Colwyn y llynedd, pan sgoriodd 200 o rediadau oddi ar 123 pêl - gan ddod yn gyfartal â record Ravi Shastri o sgorio 200 oddi ar y nifer lleiaf o beli mewn gêm dosbarth cyntaf.

Roedd o yng ngharfan Lloegr ar gyfer Cwpan o dan 19 y Byd y llynedd.