Croesi'r bont...
- Cyhoeddwyd

Mae'r tollau i groesi Pont Hafren wedi codi eto ar ddechrau 2017. Bydd yn rhaid i yrrwyr ceir dalu £6.70 i deithio nôl i Gymru dros y ddwy bont sy'n croesi'r ffin. £20 ydy'r doll i fysus a loriau trymion erbyn hyn.
Dyma i chi rai o bontydd eraill bendigedig Cymru:

Pont Bermo

"Uchelgaer uwch y weilgi" Pont Menai, campwaith Thomas Telford

Pont droed yng nghanol Casnewydd

Dyfrffordd Pontcysyllte. Cafodd y gampwaith beirianyddol ei nodi yn un o safloedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2009

Tollbont Pwll Penmaen ger Dolgellau

Pont Fawr, Llanrwst

Golygfa drawiadol o Bont Gludo Casnewydd gyda'r nos

Pont Minllyn sy'n croesi Afon Dyfi ger Dinas Mawddwy

Traphont Cefn Coed, ger Merthyr Tudful

Mae Pontarfynach wedi cael cryn sylw yn ddiweddar yn dilyn llwyddiant cyfres deledu Y Gwyll

Pont Monnow, Trefynwy