Maes Awyr Caerdydd: Terfynfa newydd o fewn 10 mlynedd?

  • Cyhoeddwyd
Maes awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Gallai terfynfa newydd gael ei hadeiladu ym maes awyr Caerdydd yn ystod y 10 mlynedd nesaf er mwyn disodli'r adeiladau presennol.

Dywedodd cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis ei fod yn gobeithio y bydd sector preifat yn buddsoddi yn y datblygiad.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr yn 2013 am £53m.

Daw sylwadau Roger Lewis wrth i adroddiad blynyddol ddangos bod cynnydd o 16% wedi bod yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae'n golygu mai dyma "un o'r meysydd awyr sydd yn tyfu gyflymaf" ym Mhrydain.

Fe ddefnyddiodd mwy na 1.3m o bobl y maes awyr ger Y Rhws yn 2016.

Dywed penaethiaid y byddant yn parhau i geisio ehangu'r busnes eleni gyda mwy o deithiau ar gael am "bris gwell" ac ar "amser gwell".

Mae adroddiad blynyddol 2016 hefyd yn dangos bod:

  • Dros 1.345m o deithwyr yn hedfan o Gaerdydd;

  • 25% o deithwyr yn ymwelwyr i Gymru;

  • 2,600 o bobl yn cael eu cyflogi;

  • Cwmnïau awyrennau yn hedfan i dros 50 o lefydd yn uniongyrchol a 900 o lefydd trwy newid awyren;

  • Y maes awyr werth dros £100m i'r economi leol;

  • Flybe wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd i Verona, Berlin a Maes Awyr Dinas Llundain.

'Twf arwyddocaol'

Dywedodd cadeirydd Maes Awyr Caerdydd, Roger Lewis bod 2016 wedi bod yn "drobwynt".

"12 mis yn ôl fe wnaethon ni addewid y byddem ni yn tyfu'r busnes a rydyn ni wedi cadw at yr addewid yna.

"Mae gyda ni llawer mwy o waith i wneud er mwyn cyflawni ein nod o greu maes awyr gwych sydd gydag ystod eang o gyfleusterau y gall Cymru a Phrydain fod yn falch ohoni."

Ychwanegodd ei fod wedi dechrau trafod gyda Llywodraeth Cymru sut y gallai'r maes awyr ddenu buddsoddiad o'r sector preifat er mwyn datblygu.

Dywedodd Debra Barber, y Rheolwr Gyfarwyddwr bod 2016 wedi bod yn flwyddyn lle y cafwyd "twf arwyddocaol", sydd yn golygu bod Caerdydd yn un o'r "meysydd awyr sydd yn tyfu gyflymaf ym Mhrydain" yn ôl Awdurdod Hedfan Sifil Prydain.

Bydd Iberia Express yn cynnig ei gwasanaeth yn 2017 gyda theithiau awyrennau i Madrid tra bydd cwmni awyrennau Blue Islands yn cynnig teithiau i Guernsey yn ystod yr haf.

Bydd Flybe yn cynnig gwasanaeth newydd i Rufain o fis Mawrth.