Miliwn o siaradwyr: 'Angen chwyldroi'r system addysg'

  • Cyhoeddwyd
Miliwn o siaradwyrFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Dywed Comisiynydd y Gymraeg bod yn rhaid "chwyldroi" y system addysg, er mwyn sicrhau y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

Fe wnaeth Meri Huws ei sylwadau ar raglen y Post Cyntaf, sydd yr wythnos hon yn ceisio darogan sut le fydd Cymru mewn 40 mlynedd a hynny fel rhan o ddathliadau pen blwydd BBC Radio Cymru.

Yn ôl Meri Huws, bydd sicrhau rhagor o gyfleon addysg Gymraeg yn golygu y bydd rhan helaeth o'r boblogaeth o dan 30 oed yn gwbl ddwyieithog erbyn 2057.

"Byddai hynny yn golygu fod cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif yn bosib," meddai.

"Buaswn i yn disgwyl ein bod ni wedi cyrraedd y miliwn o siaradwyr. Dyna yw'r nod, dyna mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud sy'n mynd i ddigwydd, dwi yn gobeithio ei fod e am ddigwydd a dwi ddim yn gweld pam na ddyle fe ddigwydd."

Ym mis Awst 2016 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

Disgrifiad,

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg yn siarad ar y Post Cyntaf

Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae Meri Huws yn dweud bod angen gweithredu nawr i gynyddu y nifer sy'n medru'r iaith. Mae'n cyfaddef bod yna her, ond dywed mai'r ateb yn syml yw newid y system addysg.

"Os ydyn ni'n hollol o ddifrif ynglyn â'r miliwn, mae'n rhaid i ni chwyldroi y system addysg o nawr ymlaen."

Ychwanegodd bod angen cyflwyno addysg Gymraeg i bob plentyn o dan saith oed.

Meddai: "Dwi'n credu fod hynny yn bosib, dwi'n credu fod e'n dderbyniol. O wneud hynny, buaswn ni yn dechrau meithrin cenhedlaeth o bobl ifanc oedd â'r iaith Gymraeg yn rhan o'u pecyn sgiliau nhw o'r dechrau."

Ychwanegodd Meri Huws ei bod yn falch bod yna alw cynyddol am addysg Gymraeg a bod twf aruthrol wedi bod yn y deugain mlynedd diwethaf.

"Ond, mae hi'n drist nad ydyn ni ar bob achlysur yn gallu cwrdd â'r galw yna," dywedodd.

"Mae angen i ni sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cyflawni, mae'n rhaid i ni roi yr adnoddau iddyn nhw."

Ychwanegodd bod rôl amlwg gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad yn y maes a dywedodd ei bod yn credu bod yna awydd clir gan weinidogion i ymateb i'r galw.

Ond mae'r Comisiynydd yn galw am ymateb strategol cliriach.

"Nid fan hyn, fan draw, hap a damwain, mae'n rhaid i ni feddwl yn strategol ynglŷn ag addysg yng Nghymru. Dyw e ddim yn mynd i ddigwydd trwy rhyw ddamwain," ychwanegodd.

Wrth ymateb fe ddywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg: "Yn amlwg ein nod ni mewn 40 mlynedd yw i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft, rydym bellach yn y broses o ddatblygu'r strategaeth iaith derfynol a fydd yn gosod y cyfeiriad hirdymor i gyrraedd y nod.

"Rydym eisiau creu un strategaeth ar gyfer y Llywodraeth gyfan. Bydd hynny yn cynnwys cyfres o ddangosyddion a fydd yn ein galluogi ni i fonitro cynnydd tuag at gyrraedd y miliwn yn ogystal â chynnydd yn nefnydd y Gymraeg.

"Wrth gwrs bydd datblygu'r system addysg i greu siaradwyr Cymraeg i'r dyfodol yn rhan greiddiol o'r strategaeth derfynol. Bydd y Strategaeth Iaith newydd yn adeiladu ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg cyfredol ac yn cynnwys targedau ar gyfer ehangu a gwella'r ddarpariaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gweinidog y Gymraeg yn dweud bod y Llywodraeth yn y 'broses o ddatblygu'r strategaeth iaith derfynol'

Bydd nifer o faterion yn cael sylw o ran y maes addysg, gan gynnwys:

• cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol i gynllunio drwy eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg;

• cyflwyno un continwwm o ddysgu Cymraeg, y bydd disgwyl i bob ysgol ei ddefnyddio o 2021;

• cynllunio'r gweithlu er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Yn ogystal â'r maes addysg, bydd y strategaeth derfynol yn rhoi sylw i faterion sy'n dylanwadu ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, boed yn y cartref, y gweithle, yn gymdeithasol neu mewn hamdden," meddai'r Gweinidog.