Elusen yn galw am addysg rhyw gorfodol i bob plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae Barnado's Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwersi addysg rhyw gorfodol i bob plentyn.
Dywedodd yr elusen eu bod wedi cynnal arolwg o blant 11 i 15 oed ar draws y DU, gyda thri chwarter ohonyn nhw yn dweud y bydden nhw'n teimlo'n hapusach petaen nhw'n cael gwersi yn yr ysgol oedd yn briodol i'w hoed nhw.
Roedden nhw hefyd yn awyddus i wybod mwy am sut i fod yn ddiogel, yn enwedig ar-lein, rhwybeth mae'r elusen yn dweud sydd yn broblem gynyddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i bob person ifanc gael gwersi addysg rhyw a pherthynas, a'i fod yn rhan o'r cwricwlwm.
'Deall y risg'
Dywedodd Barnado's eu bod wedi ceisio pwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno addysg rhyw gorfodol mewn ysgolion nôl yn 2014, pan oedd y ddeddf ar drais a cham-drin domestig yn cael ei thrafod.
Ond gyda chwricwlwm newydd nawr ar y gorwel, mae'r elusen yn credu ei bod hi'n bryd pwyso eto - a chael gwersi fydd yn trafod materion fel secstio, a chyswllt â phobl ddieithr ar y we.
"Rydyn ni'n annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno addysg rhyw a pherthynas yn yr ysgolion, sydd yn orfodol a phriodol i oedran, ac yn cynnwys defnyddio cyfryngau digidol yn saff," meddai cyfarwyddwr Barnado's Cymru, Sarah Crawley.
"Mae'n bryd gwrando ar y plant eu hunain sydd yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o hyder wrth aros yn saff ar-lein, a bod angen help arnyn nhw wrth ddeall y risg ac osgoi peryglon."
'Iach a hyderus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd diogelu plant a phobl ifanc ar-lein, ac mae gennym ni raglen addysg ac ymwybyddiaeth ar-lein gynhwysfawr ar draws Cymru.
"Mae hyn yn caniatáu ysgolion i gael mynediad at adnoddau ar-lein a deunydd ar gyfer y dosbarth er mwyn cynorthwyo dysgwyr i feddwl yn feirniadol, ymddwyn yn ddiogel, a chymryd rhan yn gyfrifol ar-lein.
"Mae Addysg Rhyw a Pherthynas yn rhan o'r cwricwlwm yng Nghymru. Rydyn ni'n disgwyl i bobl ifanc yng Nghymru gael addysg rhyw a pherthynas sydd yn briodol i'w hoed, ac mae'n 'canllawiau addysg rhyw a pherthynas mewn ysgolion' yn rhoi cyngor ar ddysgu pob agwedd o berthnasau, iechyd rhyw a materion lles.
"Bydd sicrhau bod plant a phobl ifanc yn iach a hyderus hefyd wrth galon ein cwricwlwm newydd, gydag iechyd a lles yn dod yn un o'n chwe Maes Dysgu a Phrofiad o 2021 ymlaen."