Awgrymu gostwng tollau pontydd Hafren o 2018 ymlaen
- Cyhoeddwyd

Dim ond £3 fydd angen i geir, faniau a bysiau bychain ei dalu mewn tollau ar bontydd Hafren pan fydd y tollau'n trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus tua 2018, yn ôl cynlluniau Llywodraeth y DU.
Cafodd manylion am ymgynghoriad ar y tollau, sy'n cael ei lansio ddydd Gwener, ei nodi mewn llythyr gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a gweinidog trafnidiaeth y DU, John Hayes i aelodau'r Cynulliad ac aelodau seneddol.
Mae'r gostyngiad arfaethedig yn fwy na'r hyn oedd wedi ei awgrymu'n flaenorol, ac mae'r gost yn llai na hanner y £6.70 sy'n cael ei godi ar geir ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Chris Grayling: "Bydd prisiau'r tollau yn y dyfodol sy'n cael eu cyhoeddi heddiw nid yn unig yn sicrhau diogelwch a dyfodol y pontydd am genedlaethau i ddod ond hefyd yn hwb i'r economi tra'n cynnig y gwerth gorau am arian i yrywr a threthdalwyr."
O dan y cynllun, byddai:
Tollau ar geir yn gostwng o £6.70 i £3
Byddai faniau a bysiau bychain hefyd yn talu £3, yn hytrach na £13.40
Byddai cerbydau mwy yn arbed 50% - ar hyn o bryd mae bysiau mawr a lorïau'n talu £20.
Mae gweinidogion hefyd yn ymgynghori ar drefn newydd fyddai'n golygu na fyddai llif traffig yn cael ei effeithio wrth yrru trwy'r tollau.

Camerâu
Byddai'r drefn yn golygu cael gwared ar y bariau tollau wrth i gamerâu gael eu gosod fyddai'n adnabod ceir sydd yn croesi'r pontydd.
Dywed y llythyr: "Rydym yn deall pwysigrwydd y pontydd i economi Cymru a Lloegr, a'u bod wedi bod o fantais i ddefnyddwyr ffyrdd o Gymru a Lloegr ers 50 o flynyddoedd.
"Rydym yn credu fod ein hawgrymiadau sydd wedi eu nodi yn ein hymgynghoriad yn cynnig ateb cynaliadwy, ac yn cynnig dêl dda i'r defnyddwyr ac i'r trethdalwyr yn y blynyddoedd sydd i ddod."
Galwodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates o'r newydd am ddiddymu'r tollau unwaith y byddant yn trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus - gan adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.
"Fe fyddwn yn parhau i lobïo llywodraeth y DU am hyn," meddai.
Ond dywedodd y Farwnes Randerson, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth a chyn aelod Cynulliad, nad oedd yr ymgynghoriad "yn mynd yn ddigon pell".
Dywedodd: "Pam ddylai pobl sy'n defnyddio'r bont dalu am ei chynnal a'i chadw pan maen nhw'n talu am drwsio ffyrdd drwy'r system drethu, fel mae defnyddwyr traffyrdd eraill yn ei wneud?"

Pobl yn cael cyfle i gerdded ar draws Pont Hafren pan agorodd y bont yn 1966
Mynnodd Alun Cairns bod angen cadw rhywfaint o dollau er mwyn talu am gostau yn ymwneud â'r bont.
"Bydd dyled o filiynau o bunnau yn dal i fod yno pan fydd y bont yn dod nôl i berchnogaeth gyhoeddus," meddai Ysgrifennydd Cymru.
"Bydd angen rhoi wyneb newydd iddi, a dwi hefyd eisiau edrych ar y dechnoleg er mwyn i draffig lifo'n rhwydd, ac fe fydd hynny'n ddrud yn ei hun."
'Siom i yrrwyr'
Mae rhai ymgyrchwyr wedi mynegi siom fodd bynnag nad yw'r llywodraeth wedi addo cael gwared â'r tollau yn gyfan gwbl.
Dywedodd John Warman, cynghorydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, y byddai'r newyddion yn "siom enfawr" i yrwyr yng Nghymru a Lloegr.
Ychwanegodd y cynghorydd, sydd yn drefnydd ymgyrch yn erbyn y tollau, y byddai'r costau yn parhau i fod yn faich ar yr economi ac yn llesteirio twf.
Ond dywedodd cadeirydd polisi FSB Cymru, Janet Jones, ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Ers sawl blwyddyn mae lefel sylweddol y tollau wedi bod yn bryder i fusnesau bach a mawr, ac wedi gosod cost sylweddol ar fusnesau sydd yn ei defnyddio'n rheolaidd," meddai.
"Mae FSB Cymru wedi ymgyrchu ers sbel i leihau'r tollau nid yn unig ers mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n ychwanegu yn sylweddol at y gost i fusnesau ar ddwy ochr y ffin, ond hefyd i gael gwared â beth sy'n cael ei weld fel gwrth anogaeth i fuddsoddiad yn ne ddwyrain Cymru."