Cynnig na fydd teithwyr yn gorfod talu i groesi yn y nos

  • Cyhoeddwyd
Ceir

Gallai pontydd Hafren fod yn rhad ac am ddim i groesi yn y nos.

Dyma un cynnig sydd yn cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU.

Pe byddai yn cael sêl bendith, fyddai teithwyr ddim yn gorfod talu rhwng 22:00 a 06:00.

Mae'r llywodraeth wedi dweud yn barod ei bod yn ystyried gofyn i geir, faniau a bysiau bychain dalu £3 am groesi'r pontydd erbyn 2018.

Mae gweinidogion hefyd yn ystyried trefn newydd fyddai'n golygu na fyddai llif traffig yn cael ei effeithio wrth yrru trwy'r tollau.

Byddai'r drefn yn golygu cael gwared ar y bariau tollau wrth i gamerâu gael eu gosod a fyddai'n adnabod ceir sydd yn croesi'r pontydd.

Mae'r holl faterion yn cael eu trafod fel rhan o ymgynghoriad sydd yn dod i ben Mawrth 10.