Cymry'r filltir sgwâr
- Cyhoeddwyd
Eleni, rydyn ni'n dathlu tri chanmlwyddiant geni'r emynydd William Williams Pantycelyn.
Pantycelyn yw'r ffermdy ble treuliodd ran helaeth o'i fywyd, ym mhlwy' Llanfair-ar-y-bryn, ger tref Llanymddyfri.
Mae galw rhywun yn ôl ei gartref yn ffenomenon Gymreig iawn, ac nid ef yw'r unig Gymro adnabyddus sy'n arddel enw lle fel ei enw.
Dai Jones Llanilar
Er fod cyflwynydd Cefn Gwlad wedi ei eni yn Putney yn Llundain, Dai Jones Llanilar fydd o i bawb, a hynny ar ôl y pentref ble mae ei ffermdy, sef Llanilar, ger Aberystwyth.
Shân Cothi
Mae enw Shân Cothi yn enwog yng Nghymru a thu hwnt y dyddiau yma, fel cantores, cyflwynydd ac actores, ond wyddoch chi mai Shân Morgan yw ei henw genedigol? Mae'n debyg fod yna dipyn â'r un enw pan oedd hi'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol pan oedd hi'n iau, felly roedd hi'n haws defnyddio Cothi fel cyfenw, ar ôl yr ardal ble'i magwyd hi yn Sir Gâr.
John Davies Bwlchllan
Roedd John Davies yn enwog am fod yn hanesydd a darlledydd, ac am fod yn awdur y llyfr hanes holl-gynhwysol, Hanes Cymru. Symudodd ei deulu o'r Rhondda i Bwlchllan yng Ngheredigion pan oedd yn fachgen, ac fel John Davies Bwlchllan fu'n cael ei adnabod am weddill ei fywyd.
Bethan Gwanas
"Bethan Evans? Ond o'n i'n meddwl mai Bethan Gwanas sgwennodd Amdani!?"
Os ddarllenoch chi rai o lyfrau cyntaf Bethan Gwanas, ddiwedd yr 1990au, byddech chi wedi sylwi mai enw Bethan Evans oedd ar y llyfrau. Ond yn fuan wedi hynny, dechreuodd Bethan arddel enw ffermdy'r teulu, Gwanas, sydd wedi ei leoli oddi ar yr A470, ger Dolgellau.
Cowbois Rhos Botwnnog
Cafodd y band ei sefydlu yn 2006 gan y tri brawd Aled, Iwan a Dafydd Hughes sy'n hannu o bentref bach Rhos Botwnnog, ger pentref Botwnnog ym Mhen Llŷn. Tybed benderfynon nhw alw eu hunain yn gowbois am eu bod nhw'n dod o'r wild west?!
Elen Pencwm
Doedd Elen byth yn Elen Hughes pan oedd hi'n ferch fach - roedd hi bob amser yn cael ei galw yn Elen Pencwm, ar ôl fferm y teulu ym Mhenrhyncoch ger Aberystwyth. Ac fe ddilynodd yr enw hi pan aeth hi i'r coleg. Meddai "'Sai erioed wedi cael ei wared e, ond 'sa i moyn chwaith. Fi'n 'nabod llawer o Elens yn yr ardal, ond dim ond un Elen Pencwm sydd! A phan fydda i'n mynd, Elen Pencwm fydd ar fy ngharreg fedd i!"
Bydd sawl agwedd o fywyd a gwaith William Williams Pantycelyn yn cael sylw yn ystod diwrnod arbennig o ddathliadau ar BBC Radio Cymru ar Ddydd Sul, 29 Ionawr