Rhybudd i bobl am anwybodaeth o glefyd sepsis

  • Cyhoeddwyd
Labordy
Disgrifiad o’r llun,

Labordy sy'n cynnal profion am sepsis

Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â bod yn "ferthyron" os ydyn nhw'n dechrau cael symptomau allai fod yn beryglus dros y gaeaf.

Mae meddygon teulu wedi rhybuddio pobl i beidio dod i feddygfeydd gyda pheswch neu annwyd, ond mae pryder bod diffyg gwybodaeth am sut i adnabod arwyddion o sepsis yn arwain at bobl yn cadw draw.

Yr amcangyfrif yw bod 1,800 o bobl yng Nghymru yn marw o sepsis bob blwyddyn, ond gall y cyflwr gael ei gamgymryd am ffliw yn y dyddiau cynnar.

Nawr mae gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd Prifysgol Caerdydd (SIRU) yn dweud eu bod yn credu bod addysg yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael triniaeth mewn pryd i achub eu bywydau.

'Anodd gwybod'

Dywedodd Dr Tom Connor, microbiolegydd gyda SIRU, y dylai pobl fod yn wyliadwrus am arwyddion cynnar o sepsis gan gynnwys pendro a phrinder anadl.

"O ran y cyhoedd y neges yn aml yw peidio mynd i'r ysbyty neu adrannau brys gyda phroblemau pitw, ac fe all fod yn anodd gwybod beth sy'n broblem fach a beth sy'n broblem fawr," meddai.

"Mewn achosion o sepsis a heintiau bacteria mae yna arwyddion o rybudd, ac os welwch chi nhw fe ddylech chi fynd at y meddyg yn syth.

"Ddylech chi ddim meddwl 'fe wna i ddisgwyl i weld os neith o glirio... nai ddim bod yn ferthyr'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwyddonwyr yn adeilad ymchwil SIRU yn dweud bod addysg yn hanfodol

Dywedodd Is-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, Dr Jane Fenton May ei bod yn "benderfyniad anodd".

Ychwanegodd bod deffro gyda dolur gwddw neu annwyd yn wahanol iawn i symptomau sy'n awgrymu sepsis.

"Mae'n well cael cyngor yn hytrach na mynd i'r adran ddamweiniau lle gallech chi fod yn eistedd am oriau a gwaethygu," meddai.

'Adnabod arwyddion'

Yn ôl Terence Canning, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Sepsis yng Nghymru, yr allwedd yw addysgu pobl sut i adnabod arwyddion y clefyd.

"Fe fydd sepsis ar rai pobl a does dim angen prawf gwaed i ddweud hynny gan eu bod yn amlwg yn wael," meddai.

"Ni fydd gwyddoniaeth yn gymorth i bobl felly, ond mae eraill fydd yn gallu elwa o'r wyddoniaeth os ydyn nhw'n cael eu gweld yn ddigon buan."