Caerdydd am ddatblygu'n 'brifddinas i feicwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion Cyngor Caerdydd yn dweud fod cynlluniau cyffrous ar y gweill i sicrhau fod y ddinas yn datblygu yn un o'r 10 prif ddinasoedd i feicwyr y DU o fewn y 10 mlynedd nesaf.
Bydd y strategaeth ar gyfer llwybrau beics yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddydd Iau, gyda'r bwriad o ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau i ddatblygu dinas mwy "gwyrdd, diogel ac iachus".
Mae'n rhan o gynllun ehangach gan y cyngor i geisio sicrhau fod hanner y bobl sy'n defnyddio eu ceir ar hyn o bryd yn newid i drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu seiclo i'w gwaith erbyn 2021.
Mae targed y cyngor yn codi i 60% erbyn 2026.
'Gormod o geir'
Dywedodd y Cynghorydd Ramesh Patel, aelod cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd: "Does dim amheuaeth bod gormod o geir ar ein ffyrdd, ac wrth i'r ddinas dyfu ni all ein ffyrdd gynnal mwy a mwy o gerbydau.
"Heddiw mae 9.2% yn beicio i'r gwaith. Mae ein strategaeth yn nodi sut rydym yn bwriadu dyblu'r ffigwr hwn eto i dros 18% erbyn 2026.
"Golyga hyn y bydd angen i'r rhwydwaith wneud lle ar gyfer 38,000 o deithiau beic ychwanegol bob diwrnod.
Mae gan bob cyngor yng Nghymru ddyletswydd i gynllunio ar gyfer dulliau teithio cynaliadwy a'u gwella dan Ddeddf Teithio Llesol Cymru 2013.
Mae cwmni Pedalpower Caerdydd wedi bod yn llogi beics yng nghanol y ddinas am 20 mlynedd.
Dywedodd Llinos Neale o'r cwmni eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y bobl sy'n defnyddio beics yn y pum mlynedd diwethaf.
"Mae pobl wedi blino ar fod yn sownd mewn traffic a hwyrach bod eraill eisiau bod yn fwy iach," meddai.
"'Da ni'n croesawu'r datblygiad ond 'da ni hefyd eisiau pobl i gofio am y llwybrau sydd yna nawr, fel bod beicwyr yn parchu cerddwyr, ceir yn parchu beicwyr a beicwyr yn parchu ceir, pawb mewn harmoni.
'Gwaith cynnal a chadw'
Un arall sy'n croesawu'r bwriad i wella llwybrau i seiclwyr ydy Dylan Williams sydd wedi bod yn seiclo i'w waith yng nghanol y ddinas ers tua blwyddyn.
"'O'n i'n arfer mynd o Landaf ond dwi rŵan yn byw yn yr Eglwys Newydd.
"Dwi'n dechrau yn y pentre', trwy stad o dai ac yn ymuno â Llwybr Taf, felly mae tua thri chwarter o'r daith yn weddol bleserus.
"Ond ar ôl dweud hynny, mae yna dipyn o waith cynnal a chadw i'w wneud ar Llwybr Taf, mae yna lot o dyllau ac mae'r rheiny yn anodd i'w gweld wrth iddi dywyllu.
"Byddai'n syniad hefyd pe bai nhw'n gwella'r goleuadau.
"Un peth arall i edrych arno ydy fod ceir yn parcio weithiau ar y tarmac coch, y rhan sy' fod ar gyfer beicwyr.
"Mae hynny wedyn yn ein gwthio ni allan i'r prif lôn, a dyw gyrwyr bysiau ddim bob tro'r bobl sydd â mwyaf o fynedd."
Mae gan bob cyngor yng Nghymru ddyletswydd i gynllunio ar gyfer dulliau teithio cynaliadwy a'u gwella dan Ddeddf Teithio Llesol Cymru 2013.
Fe fydd Cabinet Caerdydd yn trafod 12 o lwybrau seiclo. , dolen allanol
Os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo, bydd Cyngor y Ddinas yn cyhoeddi arolwg ar-lein i gasglu barn y cyhoedd ac yn cynnal sesiynau galw heibio ym mis Chwefror i gyhoeddi mapiau beicio a cherdded y Rhwydwaith Integredig.