Steroidau'n 'peryglu iechyd cenhedlaeth' medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd bod iechyd cenhedlaeth gyfan mewn perygl gan y defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd (IPED).
Dydd Iau bydd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn areithio mewn symposiwm i sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem.
Dynion ifanc yw llawer o'r rheini sy'n defnyddio'r cyffuriau megis steroidau wrth geisio gwella'u delwedd neu eu perfformiad mewn chwaraeon.
Er enghraifft, mae 11 o chwaraewyr rygbi a dau focsiwr o Gymru ar restr UK Anti-Doping o athletwyr sydd wedi'u gwahardd am droseddau'n ymwneud â'r defnydd o gyffuriau mewn chwaraeon.
Problemau iechyd
Mae ymchwil yng Nghymru'n awgrymu bod cynnydd diweddar yn y defnydd o gyffuriau gwella delwedd, ac fe all defnyddio sylweddau fel hyn arwain at niwed difrifol gan gynnwys clefyd y galon a niwed i'r iau.
Mae IPEDs hefyd wedi'u cysylltu gyda phroblemau iechyd meddwl, ymddygiad treisgar ac iselder.
Cyn ei haraith, dywedodd Ms Evans: "Mae'r defnydd o IPEDs yn fwy na phroblem i'r byd chwaraeon yn unig... mae'n fater i'r gymdeithas gyfan.
"Mae'n peri gofid bod cynifer o bobl ifanc, yn enwedig dynion, yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon er lles delwedd a bod rhai wedyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol.
"Rhaid i ni droi'r diwylliant hwn ar ei ben os ydyn ni am warchod cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc rhag y sgil effeithiau difrifol y gall y cyffuriau hyn eu hachosi."
'Cystadleuaeth deg'
Dywedodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elît Chwaraeon Cymru: "Mae'r rhain yn faterion hollbwysig i ni.
"Mae cystadleuaeth deg yn rhan annatod o chwaraeon lle mae'r unigolion yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac yn cymryd rhan yn rhydd o unrhyw gyffuriau i wella perfformiad.
"Mae addysg, profi bwriadol a gwaharddiadau i gyd yn dechnegau sydd wedi cael eu defnyddio i warchod enw da'r byd chwaraeon.
"Ond mae'n bwysig ein bod yn deall yr heriau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu a'r pwysau sy'n bodoli yn y gymdeithas sydd ohoni."
Ychwanegodd prif weithredwr UKAD, Nicole Sapstead: "Mae UKAD yn parhau'n bryderus am y nifer o bobl ifanc sy'n troi at steroidau er mwyn gwell eu perfformiad neu ddelwedd.
"Yn ogystal â bod yn broblem ym myd chwaraeon, mae hefyd yn datblygu'n fater difrifol i'r gymdeithas ac i genhedlaeth o bobl ifanc."
Bydd y symposiwm yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ddydd Iau.