Pryder am steroidau ymysg chwaraewyr rygbi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon am y defnydd o gyffuriau ymysg chwaraewyr rygbi wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod canran uchel o'r rheiny sydd wedi eu gwahardd yn dod o Gymru.
Yn ôl UK Anti-Doping, y corff sydd yn gyfrifol am daclo cyffuriau o fewn chwaraeon ym Mhrydain, mae dros 40% o chwaraewyr rygbi'r undeb sydd wedi eu gwahardd am gymryd cyffuriau ar draws y DU yn chwarae yng Nghymru.
Daw hyn er gwaethaf y ffaith bod chwaraewyr o Gymru yn cynrychioli llai na 10% o'r rheiny sydd yn chwarae'r gamp ar draws Prydain.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r defnydd o steroidau anabolig yn broblem gynyddol, a dydd Iau cafodd cynhadledd ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng nifer o asiantaethau i drafod sut i ddelio â'r broblem.
Mae 189 o athletwyr proffesiynol ac amatur wedi derbyn cosbau gan UKAD am droseddau cyffuriau, mewn campau gan gynnwys bocsio, athletau a chodi pwysau.
Ond mae'r ffigyrau ar gyfer rygbi yn llawer uwch na champau eraill, gydag 86 chwaraewr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair wedi eu gwahardd - a 28 ohonynt yn Gymry.
Dywedodd un chwaraewr rygbi amatur yn ne Cymru wrth Newyddion 9 ei fod wedi cymryd steroidau anabolig yn y gorffennol, a bod y defnydd o'r cyffur yn gyffredin ar lawr gwlad:
"Fe nes i gymryd nhw chydig flynyddoedd yn ôl ac roedd er mwyn cael canlyniadau cynt, i fynd yn fwy ac yn gryfach - pob agwedd - ar gyfer rygbi'n bennaf a hefyd ar gyfer bywyd bob dydd.
"Bydde ni'n dweud ei fod yn gyffredin iawn yn ne Cymru.
"Mae'r mwyafrif o'r bobl dwi'n adnabod o lawer o wahanol glybie' wedi eu cymryd ar ryw bwynt - neu arno nawr. Mae'n gyffredin iawn."
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae miloedd wedi cysylltu â nhw gyda phroblemau yn ymwneud â steroidau, ac mae'r broblem yn debygol o fod yn llawer fwy cudd nag y mae'n ymddangos.
Dyw'r awdurdodau chwaraeon ddim yn mynd i allu taclo'r mater yn effeithiol fodd bynnag os nad oes cydnabyddiaeth ei bod hi'n broblem gymdeithasol ehangach, yn ôl Rheolwr Perfformiad Elît Chwaraeon Cymru.
"Mae'n amlwg yn broblem sydd yn cynyddu yng Nghymru," meddai Brian Davies wrth siarad yn dilyn y gynhadledd.
"Roedd hi'n amlwg mai nid jyst problem chwaraeon oedd e. Roedd rhaid dod a sawl asiantaeth at ei gilydd i drio edrych yn y lle cyntaf ar y broblem a wedyn trio darganfod rhyw fath o atebion."
Ychwanegodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans bod angen gwyrdroi'r "diwylliant" o ddefnyddio cyffuriau i wella perfformiad ac edrych yn well.
"Mae'n bryder faint o bobl ifanc sydd yna, yn enwedig dynion, sydd yn prynu a defnyddio sylweddau anghyfreithlon am resymau delwedd, a bod rhai wedyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol," meddai.