Jones a Wood yn galw i aros yn rhan o'r farchnad sengl
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun Cymru ar Brexit, gan alw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.
Galwodd Carwyn Jones a Leanne Wood am "ddull cytbwys o fynd i'r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi".
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn araith gan y Prif Weinidog Theresa May yr wythnos ddiwethaf pan amlinellodd hi ei 12 egwyddor ar Brexit.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies bod y neges sy'n dod o Gymru yn un "anhrefnus".
Ychwanegodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton bod y cynllun yn ymdebygu fwy i "faner wen" na phapur gwyn.
Mae'r Papur Gwyn, gafodd ei lansio yn Llundain ddydd Llun, yn galw am:
Barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl er mwyn cefnogi "ffyniant Cymru ar gyfer y dyfodol";
Dull cytbwys o fynd i'r afael â mudo drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi, gydag "arferion cyflogaeth da" i amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw'n dod;
I Lywodraeth y DU wireddu eu haddewid na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit;
Perthynas "gyfansoddiadol sylfaenol wahanol" rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU;
Cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn ymfalchïo ynddynt yng Nghymru;
Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw'r DU yn "syrthio dros ymyl y dibyn" o ran ei pherthynas gydag Ewrop.
Mae'r Papur Gwyn yn ganlyniad i gytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Mr Jones bod y papur yn "cydbwyso'r neges a gawsom gan bobl Cymru" am bleidlais Brexit "gyda'r gwirionedd economaidd sy'n gwneud cymryd rhan yn y Farchnad Sengl mor bwysig ar gyfer ffyniant Cymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig yn gyfan, yn y dyfodol".
Ychwanegodd Ms Wood bod Plaid Cymru wedi "rhoi blaenoriaeth i economi Cymru".
"Rydyn ni wedi gwneud hyn gan fod dwy ran o dair o'n holl allforion yn mynd i Farchnad Sengl Ewrop," meddai.
'Parchu'r refferendwm'
Yn siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 fore Llun, dywedodd Mr Jones ei bod yn gwneud "dim synnwyr" i osod rhwystrau rhwng Cymru a'i farchnad fwyaf.
Dywedodd ei fod yn anghytuno gyda Ms May, a'i bod yn well ganddo system Norwy, sydd â mynediad llawn i'r farchnad sengl a ffiniau agored i'r rheiny sy'n gweithio.
"Mae hyn yn galluogi i ni barchu'r refferendwm," meddai. "Dydyn ni ddim yma i ail-frwydro hynny.
"Rydyn ni wedi cynnig cynllun synnwyr cyffredin ar fewnfudo, ble dy'n ni'n dweud bod rhyddid i symud i weithio.
"Beth fydden ni ddim yn ei ddweud yw bod rhyddid cyffredinol i symud, heb gyfyngiadau."
Mewn llythyr yn y Sunday Times, dywedodd Mr Jones a Ms Wood nad "rhestr siopa o ofynion" oedd eu cynllun, ond mai'r ffordd orau o ddechrau'r trafodaethau oedd sicrhau'r fargen orau i Gymru.
Dywedodd Eluned Morgan AC, sy'n gyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd Llafur, mai mynediad i'r farchnad sengl fyddai prif flaenoriaeth arweinwyr y pleidiau yng Nghymru.
'Baner wen'
Mynnodd Neil Hamilton fodd bynnag nad oedd y Papur Gwyn yn cynnwys "unrhyw gynllun i reoli'n ffiniau" a lleihau mewnfudo.
"Mae e'n fwy o faner wen yn ildio i'r Undeb Ewropeaidd na phapur gwyn, a hynny cyn i drafodaethau hyd yn oed ddechrau," meddai.
"Petai Theresa May yn mynd â'r cynllun yma i Frwsel byddai'r UE yn cael popeth fydden nhw eisiau.
"Byddai'n golygu na fydden ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd o ddifrif."
'Hwyr'
Dywedodd Andrew RT Davies ei fod wedi gobeithio am gytundeb trawsbleidiol ehangach, ond nad oedd wedi cael gwahoddiad gan y Prif Weinidog.
"Mae'r neges sy'n dod o Gymru yn un anhrefnus," meddai, gan ychwanegu bod angen i Ewrop ymateb i fater mewnfudo.
"Pan gafodd y farchnad sengl ei chreu... doedd ymfudiad mawr o gwmpas Ewrop ddim yn ystyriaeth. Mae'n ystyriaeth heddiw."
Wrth siarad gyda BBC Cymru, ychwanegodd bod cynllun Llywodraeth Cymru "ychydig yn hwyr".
Mae Mr Jones wedi amddiffyn y penderfyniad i gyhoeddi eu cynllun wythnos ar ôl i Ms May gyhoeddi un Llywodraeth y DU, gan ddweud bod un Cymru yn fwy manwl a chynhwysfawr.
Ddydd Mawrth, mae disgwyl i'r Goruchaf Lys gyhoeddi eu dyfarniad ar a ddylid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn bod modd bwrw 'mlaen â'r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.