Gŵyl Gopr Amlwch yn dod i ben oherwydd pwysau ariannol

  • Cyhoeddwyd
Gŵyl Gopr Amlwch

Mae trefnwyr Gŵyl Gopr Amlwch wedi cyhoeddi y bydd y digwyddiad yn dod i ben oherwydd pwysau ariannol a phwyslais cynyddol ar iechyd a diogelwch.

Fe wnaeth yr ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed y llynedd, ond ni fydd yn cael ei chynnal eleni.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn amcangyfrif bod tua 150,000 o ymwelwyr a 250 o artistiaid wedi bod yn yr ŵyl ers iddi ddechrau yn 2006.

Fe wnaeth y trefnwyr ddiolch i bobl a busnesau Amlwch, ac i'r holl wirfoddolwyr fu'n rhan o'r digwyddiad, am eu "cymorth ar hyd y blynyddoedd".

Ychwanegwyd eu bod yn gobeithio y bydd rhywun yn mynd ati i ail-gynnal y digwyddiad yn y dyfodol.

'Braint'

Mewn datganiad, dywedodd trefnwyr yr ŵyl: "Gyda thristwch, mae pwyllgor yr Ŵyl Gopr yn cyhoeddi na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

"Cafwyd gŵyl a hanner fis Awst y flwyddyn ddiwethaf i ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed.

"Gyda phwysau ariannol a'r pwyslais ar iechyd a diogelwch yn cynyddu - rydym wedi penderfynu dod â phethau i ben.

"Mae'r ddeg mlynedd diwethaf wedi bod yn arbennig - mae gweld yr ŵyl yn datblygu i fod yn rhywbeth mor fawr a llwyddiannus wedi bod yn fraint, a braint hefyd oedd eich croesawu chi oll i Amlwch, cefnogwyr a pherfformwyr i fod yn ein plith bob haf.

"Rydym yn gobeithio y bydd rhywun yn mynd ati i gynnal yr ŵyl eto am flynyddoedd, rhyw ddiwrnod."