Dedfrydu llanc am ddwyn cathod o warchodfa a'u cam-drin

  • Cyhoeddwyd
frank lewisFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae llanc 18 oed wedi cael ei ddedfrydu am ddwyn cathod o warchodfa er mwyn i'w gŵn allu eu hela a'u lladd.

Cafodd Frank Lewis, o Groeserw ger Port Talbot, ddedfryd o 30 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc am ddwyn yr anifeiliaid o warchodfa Tŷ Nant.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod wedi eu defnyddio fel "abwyd byw" er mwyn i'w gŵn allu eu hela a'u lladd.

Roedd hefyd wedi anafu rhai o'r cathod er mwyn eu harafu a'i gwneud hi'n haws i'r cŵn eu dal.

O'r 10 o gathod gafodd eu dwyn gan Lewis o'r warchodfa, cafodd pedair eu canfod yn fyw.

Cafodd tri eu darganfod yn farw yn yr ardal, a dyw tri arall dal heb gael eu darganfod.

Clywodd y llys bod Lewis eisoes wedi cael ei ddedfrydu am ymosod ar ddafad bythefnos cyn iddo ddwyn y cathod.

Dywedodd y barnwr Paul Hopkins fod gweithredoedd Lewis yn "greulon tu hwnt" a'i fod yn unigolyn "peryglus".

Ychwanegodd Theresa Ahmed, perchennog y warchodfa gathod, bod Lewis yn "ddieflig" a bod y lladrad wedi "newid fy mywyd am byth".