Teulu'n cefnogi ymgais i dynhau rheolau tripiau ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae teulu plentyn fu farw ar drip coleg yn cefnogi ymgais AC i dynhau'r rheolau ar deithiau addysgol.
Bu farw Glyn Summers, 17, ar daith i Barcelona yn 2011.
Mae AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, eisiau gosod isafswm ar y gyfradd o staff i ddisgyblion ar dripiau.
Ddydd Mercher, bydd un AC yn cael ei ddewis ar hap i gyflwyno mesur aelod preifat yn y Cynulliad.
Os yw'n cael ei ddewis, byddai Mr Lewis yn cynnig y mesur Diogelwch ar Deithiau Addysgol, fyddai hefyd yn golygu cyflwyno adolygiadau annibynnol pan fo marwolaeth neu anafiadau yn ystod trip.
Roedd Glyn Summers, o Hengoed, Caerffili, ar daith gyda Choleg Ystrad Mynach pan fu farw yn Hydref 2011.
Ar y dydd y cyrhaeddodd Barcelona, syrthiodd o falconi a bu farw wythnos yn ddiweddarach yn sgil ei anafiadau.
Dywedodd ei fam, Sarah Summers: "Pe bai cyfreithiau fel hyn cyn damwain Glyn, fe fyddai pethau wedi bod yn llawer haws i ni.
"Fe allai fod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, a gallai Glyn fod yn fyw o hyd."
Fe gynhaliodd y coleg - sydd bellach yn rhan o Goleg y Cymoedd - ymchwiliad mewnol, ond dyw'r ddogfen ddim ar gael i'r cyhoedd. Mae'r teulu yn galw am ymchwiliad annibynnol.
Dywedodd Mr Lewis bod stori Glyn Summers yn "esiampl o be all fynd o chwith pan nad ydy canllawiau'n cael eu dilyn yn iawn."
Fe ychwanegodd: "Mae angen cryfhau a diweddaru'r gyfraith sy'n rheoleiddio tripiau ysgol. Mae plant a phobl ifanc yn elwa'n fawr o dripiau addysgol, a dwi eisiau sicrhau eu bod yn gallu dysgu a mwynhau yn ddiogel."
Fe ddywedodd Coleg y Cymoedd nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw am resymau cyfreithiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dewis aelod i gynnig mesur yw'r cam cyntaf i fesur aelod preifat.
"Os yw'r cynnig yma yn cael ei ddewis ddydd Mercher, bydd cyfle i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru i'w ystyried."