Tlodi yn fygythiad i iechyd plant, medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn ein cymdeithas yn peryglu iechyd plant Cymru, meddai adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
Yn ôl yr adroddiad mae angen camau beiddgar i ddelio gyda gordewdra, iechyd meddwl ac ysmygu yng Nghymru.
Daw'r data yn yr adroddiad o 25 o fesurau gwahanol oedd yn edrych ar ystod o ffactorau fel cyfraddau marwolaethau, asthma, epilepsi a chyfraddau isel o fwydo o'r fron.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r ddogfen yn dangos bod:
210 o fabanod, plant a phobl ifanc ar gyfartaledd yn marw yng Nghymru bob blwyddyn; gyda mwyafrif y marwolaethau yn digwydd mewn babanod sy'n llai na blwydd oed;
Tua 200,000 o blant Cymru yn byw mewn tlodi ac yn fwy tebygol o gael problemau iechyd ac o ymddwyn mewn ffordd fwy mentrus;
7% o fechgyn 15 oed a 9% o ferched 15 oed yn ysmygu yn gyson;
13% o bobl ifanc 15 oed yn yfed alcohol unwaith yr wythnos;
27% o blant Cymru yn dechrau'r ysgol gynradd yn ordew.
Mae Dr Mair Parry, swyddog y coleg yng Nghymru yn dweud bod "tlodi yn cael effaith mawr ar iechyd plant a phobl ifanc".
"Mae mamau o gymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu, yfed ac o beidio bwyta diet cytbwys pan yn feichiog sy'n gallu arwain at fabanod sydd â phwysau geni isel a pherygl i iechyd plentyn," meddai.
"Ac mae pobl ifanc o gefndiroedd mwy tlawd yn fwy tebygol o ysmygu ac yfed, sydd yn gallu achosi problemau iechyd yn y tymor byr a'r hir dymor."
'Dim ateb hawdd'
Mae'r adroddiad yn canmol rhaglen Dechrau'n Deg gan y llywodraeth, rhaglen i deuluoedd o gefndiroedd difreintiedig sy'n rhoi gofal plant am ddim a chyfle i rieni ddysgu sgiliau magu plant.
Ond mae Dr Mair Parry yn dweud bod yna fylchau yn y ddarpariaeth fel y data ar gyfer iechyd meddwl, gordewdra ac anableddau.
Ymhlith yr argymhellion mae data mwy cyson a data sy'n bosib ei gymharu gyda gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen lleihau nifer y plant sy'n marw, ond yn cydnabod bod y rhesymau pam yn "gymhleth".
Bydd angen "ystod o ddatrysiadau o ran polisi ac ymyrraeth", meddai'r adroddiad, er mwyn dod â'r ffigwr i lawr.
'Cymaint o wahaniaeth'
Mae Rachel Thomas yn un o'r rhieni sydd yn defnyddio gwasanaeth Dechrau'n Deg yn Aberteifi:
"I fi, byddwn i byth yn gallu fforddio gyrru fy mhlentyn yma pum diwrnod yr wythnos. Mae 'na rai na fyddai'n gallu talu i blentyn ddod yma am ddiwrnod.
"Mae cael mynediad am ddim i'r gwasanaethau yma wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ddatblygiad fy mhlentyn.
"O ran iechyd plant, byddai'n wych i'r llywodraeth fuddsoddi mwy mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.
"Byddai hynny yn lleihau nifer y plant sy'n mynd allan i ysmygu a chymryd cyffuriau yn yr ardal yma."
Argymhelliad arall yw darparu addysg bersonol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd a thaclo gordewdra.
Does "dim ateb hawdd" i'r broblem meddai'r awdur, ond mae yna fesurau allai wneud gwahaniaeth fel cyflwyno uchafswm cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd lle mae adeiladau, a lleihau'r cyfleoedd i bobl ifanc gael bwyd sydd ddim yn iach mewn llefydd fel ysgolion, colegau a chanolfannau hamdden.
Mae Dr Parry yn dweud bod yr argymhellion yn rhai "uchelgeisiol".
"Mae'n rhaid i ni ddangos arweiniad go iawn o ddechrau bywydau pobl a hybu iechyd da a llesiant cymdeithas gyfan," meddai.
"Os nad ydyn ni yn gwneud hyn, fe fyddwn ni wedi methu cenhedlaeth gyfan o bobl yng Nghymru."
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried holl argymhellion yr astudiaeth, ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.