Gwerthu lluniau o 'ferch ddirgel' Lloyd George
- Cyhoeddwyd

David Lloyd George a Jennifer Longford
Fe fydd lluniau sy'n dangos y cyn brif weinidog David Lloyd George gyda'i 'ferch ddirgel' yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant.
Jennifer Longford oedd unig ferch Frances Stevenson, ysgrifenyddes Lloyd George, oedd hefyd mewn perthynas ag o.
Roedd y ferch yn adnabod Lloyd George fel taid iddi, ond roedd ganddi amheuon mai fo oedd ei thad.
Mae lluniau teuluol yn dangos y ddau gyda'i gilydd wedi eu rhyddhau bum mlynedd yn dilyn marwolaeth Ms Longford yn 82 oed.
Roedd Lloyd George yn aelod seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon, ac roedd ganddo enw am fod mewn perthynas gyda nifer o fenywod eraill tra roedd yn briod.
Fe briododd Ms Stevenson yn dilyn marwolaeth ei wraig Margaret.

Jennifer Longfors a Lloyd George
Cafodd Ms Longford ei geni yn 1929, ac fe ddywedwyd wrthi ei bod wedi ei mabwysiadu yn dilyn marwolaeth ei rhieni.
Bydd y lluniau'n cael eu gwerthu yn arwerthiant Dreweatts & Bloomsbury yn Llundain ar 23 Mawrth.
Fe fydd nifer o luniau teuluol, casgliad o gardiau a llythyrau rhwng Lloyd George, Frances Stevenson a Jennifer Longford, a llythyr cyfreithiwr yn dangos manylion mabwysiadu Jennifer Lonford yn cael eu gwerthu fel rhan o'r arwerthiant, ac mae disgwyl i'r eitemau werthu am rwng £500 a £2,500.