Datganoli 'heb gynnig cyfiawnder' medd Archesgob Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 nad ydi datganoli wedi cynnig cyfiawnder na chydraddoldeb i Gymru.
Yn ôl y Dr Barry Morgan, sydd wedi arwain yr Eglwys yng Nghymru am 14 mlynedd, dyw Mesur Cymru, gafodd ei basio'r wythnos diwethaf, ddim yn un cyfiawn.
Ychwanegodd bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael "cytundeb gwell" na Chymru.
Daw sylwadau'r Dr Morgan ar drothwy ei ymddeoliad ar ddiwedd y mis pan fydd y 70 oed.
Fe fydd Mesur Cymru yn trosglwyddo pwerau newydd i'r Cynulliad, gan gynnwys grymoedd dros drafnidiaeth, egni a threfniadau etholiadol i Fae Caerdydd.
'Cyfiawnder a chydraddoldeb'
Dywedodd Dr Morgan: "Datganoli yng Nghymru - mater o gyfiawnder yw e a chydraddoldeb a dy'n ni ddim wedi cyrraedd y pwynt yna eto, mor belled a mae Cymru yn y cwestiwn yn y fy marn i."
Gofynnwyd iddo a oedd angen mynd yn bellach ag yn gynt. Dywedodd: "Wrth gwrs. A fi'n credu bod y bil diweddara' sydd wedi cael ei basio ddim, dwi ddim yn credu, yn un cyfiawn iawn. Ond, ar y llaw arall, dyma'r unig beth ry'n ni'n mynd i gael ar hyn o bryd."
Ychwanegodd: "Mewn ugain mlynedd ni wedi cyrraedd pwynt da dros ben.
"Hynny yw mae gyda ni nawr lywodraeth yng Nghymru sydd yn edrych ar gryn dipyn o bethau yng Nghymru ac mae llawer yn well na chael ysgrifennydd gwladol a dau is-ysgrifennydd yn rheoli Cymru fel petai. Mae hwnna llawer yn well.
"Ond dyw e ddim wedi mynd mor bell ag y dylai e - oherwydd yr Alban a hefyd Gogledd Iwerddon wedi cael gwell deal os mynnwch chi na Chymru."