Gwasanaeth i nodi ymddeoliad Archesgob Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dr Barry MorganFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Mae gwasanaeth wedi cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf ddydd Sul i nodi ymddeoliad Dr Barry Morgan fel Archesgob Cymru.

Fe fydd yn ymddeol ar ddydd Mawrth, 31 Ionawr - yr un diwrnod a'i ben-blwydd yn 70 oed, a hynny ar ôl bron i 14 mlynedd wrth lyw yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd hefyd yn ymddeol fel Esgob Llandaf ar ôl mwy na 17 mlynedd o wasanaeth, ar ôl bod yn Esgob Bangor am bron i saith mlynedd cyn hynny.

Wrth dalu teyrnged iddo, cafodd Dr Morgan ei ddisgrifio gan Archesgob Caergrawnt fel "gwas rhyfeddol" y byddai'n "gweld ei golli yn fawr iawn".

'Braint enfawr'

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Dr Morgan: "Bu'n fraint enfawr gwasanaethu fel Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf ac i wneud hynny mewn cyfnod mor bwysig ym mywyd Cymru.

"Bu'n daith lan a lawr ond drwy'r cyfan cefais fy nghynnal a fy ysbrydoli gan y bobl rwy'n cwrdd â nhw ddydd ar ôl dydd, sy'n byw cariad Duw ym mhob rhan o Gymru drwy eu hymrwymiad ac ymroddiad i'w heglwysi a chymunedau.

"Dros y blynyddoedd gwelais Cymru yn tyfu mewn hunanhyder fel cenedl ac rwy'n awr yn obeithiol iawn y caiff hyn ei feithrin a'i gyfoethogi gyda chefnogaeth barhaus yr Eglwys yng Nghymru."

Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob, mae Dr Morgan wedi hyrwyddo llawer o newidiadau yn yr Eglwys yng Nghymru, yn cynnwys newid yn ei chyfraith i alluogi ordeinio menywod fel esgobion.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr gyfraniad enfawr Dr Barry Morgan yn ystod yr 14 mlynedd ddiwethaf fel Archesgob Cymru.

"Cafodd effaith mor gadarnhaol ar fywydau cynifer o bobl o gymunedau crefyddol Cymru ac mae wedi annog sefydlu cysylltiadau cymunedol da ar draws y wlad.

"Bu'n anrhydedd gweithio'n agos gyda'r Archesgob drwy waith y Fforwm Cymunedau Ffydd, y bu'n ei wasanaethu ers ei sefydlu.

"Rwy'n ddiolchgar am ei gyngor a'i ddoethineb ar faterion yn effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a'i ymrwymiad di-ildio i hyrwyddo gwaith rhyng-ffydd ledled Cymru."

Yn hanu o bentref glofaol Gwaun-Cae-Gurwen yng nghwm Tawe, etholwyd Dr Morgan yn 12fed Archesgob Cymru yn 2003, yn dilyn Dr Rowan Williams ar ôl ei benodiad yn Archesgob Caergaint.

Mae Dr Morgan yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a nifer o brifysgolion yng Nghymru, ac yn arbenigwr ar farddoniaeth yr offeiriad Cymreig R S Thomas.