Corff newydd i gymryd lle cyngor cyllid addysg, HEFCW

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams bod y "ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn chwalu"

Bydd y corff sy'n rhannu arian cyhoeddus rhwng prifysgolion yn dirwyn i ben wrth i gorff newydd gymryd cyfrifoldeb am y gwaith.

Llynedd, fe wnaeth adolygiad argymell dod a'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i ben.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd corff newydd i reoli cyllid prifysgolion, colegau addysg bellach a chyllid ar gyfer gwaith ymchwil a sgiliau yn cael ei sefydlu.

Ar hyn o bryd, mae'r cyllid ar gyfer addysg bellach a hyfforddi yn dod gan weinidogion yn uniongyrchol, tra bod HEFCW yn rhannu'r arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru rhwng prifysgolion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wrth ACau bod y "ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn chwalu", a bod angen newid y drefn.

Cafodd y newidiadau eu hargymell mewn arolwg gan yr Athro Ellen Hazelkorn y llynedd.

Bydd ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni ynglŷn â sefydlu'r corff newydd, a bydd cadeirydd presennol HEFCW, David Allen, yn aros yn ei swydd am dair blynedd.