Cymeradwyo parc dŵr newydd i bromenâd Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Y RhylFfynhonnell y llun, Google

Mae cynghorwyr yn Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid codi parc dŵr newydd ar bromenâd Y Rhyl.

Fe fydd y datblygiad yn cynnwys adeilad 1,200 metr sgwâr ar gyfer gweithgareddau gan gynnwys lle dringo, lle chwarae i blant a chwaraeon dŵr.

Fe fydd y safle newydd yn cael ei leoli ger adeilad y Sky Tower yn y dref.

Gobaith y cyngor yw y bydd y ganolfan newydd yn agor erbyn Pasg 2019.

Dyw'r cynllun heb gael ei gymeradwyo eto gan bwyllgor cynllunio'r sir, ond dywed swyddogion y bydd y cynllun yn creu 60 o swyddi.

Y nod hefyd yw cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol tref Y Rhyl, gan y bydd yr atyniad newydd yn llawer agosach i ganol y dref na hen ganolfan yr Heulfan.

Bydd Cyngor Tref Y Rhyl yn rhoi benthyciad o £2m ar gyfer y gwaith adeiladau, a bydd yna gymhorthdal o £800,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywed y cyngor y bydd yr arian sy'n cael ei godi ar gwsmeriaid yr atyniad newydd yn talu am gost y benthyciad, gan ychwanegu na fydd y cynllun yn cael unrhyw effaith ar wariant y cyngor.