Galw i'r BBC wario £30m ychwanegol ar raglenni am Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n bryd i'r BBC wario £30m yn ychwanegol ar raglenni am Gymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mewn adroddiad newydd mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu hefyd yn galw ar y gorfforaeth i drefnu bwletin arbennig i Gymru ar orsafau Radio 1 a Radio 2.
Mae Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, eisoes wedi derbyn fod angen gwell setliad ariannol i'r BBC yng Nghymru, ond does dim ffigwr eto wedi'i roi ar yr addewid.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym eisoes wedi dweud fod gwella ein portread o wahanol genhedloedd y Deyrnas Unedig - gan gynnwys Cymru - ar ein rhwydweithiau yn flaenoriaeth ar gyfer cyfnod y Siarter newydd.
"Fel rhan o hyn, rydym wedi ymrwymo i wario mwy ar raglenni teledu Saesneg yng Nghymru, a byddwn yn ymhelaethu ar ein cynlluniau yn fuan."
Ailddarllediadau S4C yn 'bryder'
Dywedodd Bethan Jenkins, yr Aelod Cynulliad sy'n cadeirio'r pwyllgor: "Yr hyn sy'n amlwg, fodd bynnag, yw bod Cymru yn colli allan ar gyllid y BBC ar gyfer rhaglenni Saesneg eu hiaith sy'n canolbwyntio ar Gymru.
"Roeddem yn falch o glywed gan Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, y byddai mwy o arian ar gael, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gyhoeddiad sydd i ddod ar y mater hwn.
"Rydym hefyd yn credu y dylai gorsafoedd blaenllaw fel Radio 1 a Radio 2 gyflwyno trefniant eithrio ar gyfer newyddion o Gymru i adlewyrchu bywyd yng Nghymru yn well. Unwaith eto, mae'r Pwyllgor yn falch i glywed fod hwn yn fater sy'n cael ei ystyried o ddifrif."
Mae'r adroddiad hefyd yn datgan na ddylid torri ymhellach ar gyllideb S4C tan fod adolygiad arfaethedig i fewn i'r Sianel wedi'i chwblhau.
Ac fe ddylai ITV fod yn "fwy rhagweithiol" wrth ddarparu rhaglenni sy'n adlewyrchu bywyd Cymreig ar gyfer cynulleidfaeodd ledled Prydain.
Dywedodd Ms Jenkins fod y "lefel uchel o ailddarllediadau ar S4C yn achos pryder".