Cwblhau adroddiad am achos llofruddiaeth Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae canfyddiadau ymchwiliad i un o lofruddiaethau mwyaf nodedig Cymru, a methiant achos yn erbyn wyth o swyddogion yr heddlu, wedi cael eu rhoi yn nwylo gweinidogion llywodraeth y DU.
Fe gafodd Lynette White, 20 oed, ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd yn 1988.
Wedi i euogfarnau tri dyn o ladd Ms White gael eu dileu yn 1992, fe wynebodd wyth o swyddogion yr heddlu achos o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn 2011, ond fe fethodd yr achos yn eu herbyn.
Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cwestiynau yn parhau i fod dros pam nad oes neb wedi eu dwyn i gyfrif am y camweinyddu cyfiawnder echrydus yma."
Fe gafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu ar gam, a hynny am oes yn 1990, ond fe gafodd y tri eu rhyddhau yn 1992.
Yn 2003, a hynny oherwydd technoleg DNA newydd oedd ar gael i Heddlu De Cymru, fe gafodd llofrudd Ms White, Jeffrey Gafoor, ei ddal ac fe gyfaddefodd ei fod wedi ei thrywanu wedi ffrae dros £30.
Cafodd 12 o gyn swyddogion Heddlu De Cymru eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder - ond methodd yr achos yn erbyn wyth ohonynt yn 2011.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y bydd canfyddiadau adroddiad Richard Howell QC yn cael eu harchwilio yn fanwl, ac y byddai'n cael ei gyhoeddi maes o law.