Panel: 'Dim sail i ariannu pencadlys newydd S4C'

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCDDS

Mae'r panel sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar y diwydiannau creadigol wedi dweud wrth weinidogion nad oes sail i ariannu cynllun Yr Egin.

Bwriad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ydy datblygu canolfan yng Nghaerfyrddin fydd yn gartref i S4C ymysg nifer o gwmnïau eraill.

Mae rhaglen Y Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar ddeall fod y panel, sydd dan gadeiryddiaeth cadeirydd gweithredol Tinopolis, Ron Jones, o'r farn bod clwstwr o gwmnïau creadigol eisoes yn bodoli yn Abertawe.

Yn eu cyngor i'r llywodraeth dyw'r panel ddim wedi ystyried unrhyw fudd ieithyddol, addysgol a chymdeithasegol sydd ynghlwm â'r Egin.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe ddaeth i'r amlwg fod y brifysgol wedi gofyn am grant o rwng £4m a £6m gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion yn parhau i ystyried y cais.

'Bwlch ariannu'

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi dweud wrth aelodau'r Cynulliad fod "bwlch ariannu" wedi datblygu yn dilyn y cyhoeddiad cyntaf am fanylion y datblygiad, a bod hynny yn "siomedig".

Fe wnaeth y datblygiad dderbyn caniatâd cynllunio ym mis Hydref, ac mae Kier Group wedi cael eu penodi fel y prif adeiladwyr.

Yn y gorffennol mae S4C wedi dweud y byddai 55 o swyddi yn cael eu hadleoli o Gaerdydd gan gytuno i dalu £3m mewn rhent am les 20 mlynedd.

Mae cyfarwyddwyr y cynllun wedi amcangyfrif y bydd y ganolfan newydd yn werth £11m i'r economi leol pob blwyddyn.

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price wedi honni y gallai'r ansicrwydd beryglu nid yn unig prosiect Yr Egin, ond Cytundeb Dinas-Ranbarth Abertawe gyfan.

"Mae'r cytundeb yn dechrau gyda phrosiect Yr Egin yn ei galon, ond mae'r sïon yn peryglu dyfodol £250miliwn o fuddsoddiadau arfaethedig yn Sir Gâr yn unig," meddai.

'Hynod siomedig'

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, bod y newyddion yn "hynod siomedig ac yn destun cryn ofid".

Dywedodd bod y "gymhariaeth rhwng y datblygiad yn Abertawe a'r Egin yn gwbl amhriodol", oherwydd byddai'r Egin yn cynnig buddiannau "nid yn unig i ranbarth Bae Abertawe, ond i Gymru gyfan".

"Er taw S4C fydd y prif denant yn Yr Egin, bydd yno hefyd dros 20 o fentrau masnachol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, a fydd yn creu mwy na 150 o swyddi newydd, a chwmnïau deilliedig cysylltiedig a fydd yn darparu cyfleoedd pellach.

"Yn ogystal mae'n werth nodi pwysigrwydd dod ag S4C i orllewin Cymru, gan fod hynny'n ategu ymrwymiad y rhanbarth i gefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru a'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Doedd Llywodraeth Cymru, y brifysgol nac S4C am ymateb.