Llywodraeth yn 'anwybyddu'r gogledd', medd AC

  • Cyhoeddwyd
trethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae aelod cynulliad wedi cyhuddo'r llywodraeth o "anwybyddu'r gogledd" yn sgil penderfyniad i leoli corff trethi newydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener mai yn Nhrefforest fyddai pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru.

Ond dywedodd Llyr Gruffydd AC ei bod hi'n "gywilyddus" y bydd yr adran "ddim ond ychydig filltiroedd" o Gaerdydd.

Roedd galw am leoli'r corff yn y gogledd yn sgil penderfyniad y Gwasanaeth Cyllid a Thollau i gau swyddfeydd ym Mhorthmadog a Wrecsam.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod lleoliad yr adran newydd yn dangos eu hymrwymiad i wneud y Cymoedd yn lewyrchus.

'Anwybyddu'

Fe fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn rheoli a chasglu'r trethi newydd a fydd yn cael eu datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Bydd gan yr awdurdod tua 40 o aelodau staff, fydd â chyfrifoldeb dros gydymffurfio â threthi, gwasanaethau digidol a rheoli data.

Mae Mr Gruffydd - AC Plaid Cymru dros ranbarth Gogledd Cymru - yn feirniadol o'r penderfyniad i leoli'r awdurdod ond 10 milltir i'r gogledd o ddinas Caerdydd, a hynny er gwaethaf sicrwydd gan weinidogion y byddan nhw yn ystyried sefydlu'r pencadlys yn Wrecsam neu ran arall o'r gogledd.

"Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur wedi anwybyddu'r Gogledd," meddai.

"Mae hyn er bod mwy na 400 o weithwyr treth yn Wrecsam a Phorthmadog fyddai'n medru gweithio i'r awdurdod newydd. Mae ganddyn nhw'r sgiliau a'r arbenigedd ac maen nhw wedi cael eu hanwybyddu - mae'n gywilyddus."

Disgrifiad,

Mae'r llywodraeth wedi "colli cyfle", yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan gynghorydd ym Mhorthmadog, a ddywedodd bod Llywodraeth Cymru "wedi colli cyfle" i ddangos eu hymrwymiad i ardaloedd gwledig.

"Dwi'n meddwl eu bod wedi colli cyfle mawr rŵan i ddangos go iawn be' maen nhw'n feddwl, eu bod nhw eisiau cefnogi broydd Cymreig ac ardaloedd gwledig, ac maen nhw wedi methu'n llwyr," meddai Selwyn Griffiths.

"Mae 'na arbenigedd i'w gael ym mhob man rŵan. Ydy'r ffaith bod pethau lawr yng Nghaerdydd, ac mai Caerdydd ydy bob dim, yn golygu bod yr arbenigedd i gyd yna? Nac ydi."

Adolygiad 18 mis

Yr Awdurdod Cyllid Cymru fydd yr adran anweinidogol gyntaf i gael ei chreu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y llywodraeth, mae lleoli'r awdurdod yn Nhrefforest yn symbol o'u hymrwymiad i wneud y Cymoedd yn lle llewyrchus, ac fe fyddan nhw'n adolygu'r lleoliad unwaith y bydd yr awdurdod wedi'i sefydlu ac yn weithredol ymhen 18 mis.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rhaid i'r awdurdod ddiwallu anghenion eu rhanddeiliaid a'u cwsmeriaid ledled Cymru. Bydd hyn yn golygu cydweithio â chwsmeriaid a'u hasiantau ymhle bynnag y maent wedi'u lleoli i godi ymwybyddiaeth o'r trethi Cymreig newydd.

"Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydliad digidol yn gyntaf, felly bydd yn ofynnol i'w staff weithio'n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i gefnogi'r trosglwyddiad o systemau copi caled i system o dalu a ffeilio ar-lein.

"I hwyluso hyn, bydd gan yr Awdurdod gynrychiolaeth yn Aberystwyth a Llandudno er mwyn cynnal cysylltiad uniongyrchol rhwng staff a rhanddeiliaid, y trethdalwyr a'u hasiantau."