Ymgyrch i adfer bedd cyfansoddwr Myfanwy, Joseph Parry
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi dechrau er mwyn adfer bedd y cyfansoddwr a'r cerddor Joseph Parry.
Cafodd y gŵr o Ferthyr Tudful, sydd yn adnabyddus am gyfansoddi Myfanwy a'r emyn-dôn Aberystwyth, ei gladdu ym mynwent Eglwys Sant Awstin (St Augustine) ym Mhenarth yn 1903.
Ond mae'r garreg fedd wedi dirywio ac fe fydd yn costio £5,000 i'w gweddnewid. Yno hefyd cafodd ei wraig a'i ddau fab eu claddu.
Gobaith cyfeillion yr eglwys sy'n ceisio cadw'r eglwys a'r fynwent mewn cyflwr da, yw codi'r arian trwy gynnal digwyddiadau yn y gymuned.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Patricia Griffiths wrth Cymru Fyw bod gan bobl ddiddordeb gweld y bedd: "Mae pobl yn dod i'w weld ac mi ydyn ni'n aml yn cael pobl yn gofyn lle mae'r bedd. Dyna yw'r broblem arall ar y funud.
"Mae mynd at y bedd ychydig yn beryglus am ei fod wedi ei orchuddio gan laswellt ac yn y blaen.
"Felly fel rhan o'r gwaith o adfer y bedd, mi ydyn ni eisiau creu llwybr saff tuag ato."
Bydd digwyddiadau i godi arian yn cael eu cynnal yn yr eglwys ym mis Ebrill, fydd yn cynnwys darlith am fywyd Joseph Parry a'i gerddoriaeth yn cael ei chanu gan gantorion Ardwyn a'r gantores Sioned Terry.
"Mi ydyn ni'n mynd i ysgrifennu at gymaint o bobl a phosib sydd gyda chysylltiadau gyda Parry," ychwanegodd Ms Griffiths.
"Mae yna gysylltiad mawr gyda Pennsylvania. Fe aeth Parry i Pennsylvania pan oedd o yn 12 ac mi oedd pobl draw yno yn gefnogol iawn o'r plentyn talentog yma, a dw i'n credu iddyn nhw dalu iddo gael hyfforddiant."
Yn ôl Ms Griffiths mae adnewyddu'r bedd yn bwysig: "Pan fo gyda chi gyfansoddwr fel Joseph Parry, sydd yn adnabyddus, nid yn unig yng Nghymru, ond ymhellach, ac yn ddyn nodedig ddaeth o gefndir tlawd i fod yn un o'r cyfansoddwyr Cymreig mwyaf adnabyddus erioed, mae'r ffaith fod ei fedd mewn cyflwr gwael a hynny mewn safle amlwg yn ofnadwy.
"Mae angen ei adfer ac mi ydyn ni'n gobeithio y bydd yn lle y bydd pobl yn dod ac y byddan nhw yn meddwl ein bod ni wedi ei wneud yn falch."
'Eicon'
Arweinydd y gymanfa ganu fydd yn cael ei chynnal yw Alun Guy: "Dyw ei fedd e ddim yn wael, ond mae isie codi arian achos mae'n debyg mae'r tir yma, mae 'na beryg bod y bedd yn gallu suddo i lawr. Ond mae Joseph Parry yn ormod o eicon i adael i hynny i fynd a chwarae teg i'r pwyllgor."
"Yn sicr o ran yr emyn-donau, o'dd Joseph Parry i fyny gyda'r goreuon, a bydd ei enw byth yn marw oherwydd yr hyn a sgwennodd e.
"Mae'n rhaid dweud bod Cymru ar adegau wedi gwawdio peth o'i gyfraniadau gan ddweud bod e wedi benthyca yn ormodol oddi wrth gyfansoddwyr eraill yn Ewrop. Ond, da i ni gofio hefyd bod neb o'i flaen e' yng Nghymru wedi dylanwadu arno fe. Doedd dim rhagflaenwyr iddo fe.
"Pan ddes i yma gyntaf o'n i'n meddwl bydde yna ryw fath o feddrod mawr, arbennig iawn. Ond ges i'r un ymdeimlad pan es i weld bedd Edward Elgar yn Lloegr - digon di-nod yw hi.
"Mae hynny yn dweud llawer iawn am Joseph Parry.
"Wrth i'r haul ddisgleirio arnon ni, disgleiried hefyd ar ei fedd e. Fe wnaeth e roi Cymru ar y map yn ddi-os. Fe weithiodd e. Gafodd e fywyd llawn, llwyddiannus. Mae ei waith e yn byw ar ei ôl e."
Bydd y gymanfa ganu'n cael ei chynnal yn Eglwys Awstin Sant, Penarth ar 23 Ebrill, ac yn cael ei darlledu ar Ganiadaeth y Cysegr ar BBC Radio Cymru ddydd Sul 30 Ebrill.