Tân mawr ar safle hen ysbyty meddwl yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Dinbych

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i dân mawr ar safle hen ysbyty meddwl yn Sir Ddinbych nos Fawrth.

Cafodd diffoddwyr eu galw i Ysbyty Meddwl Dinbych, sydd ychydig y tu allan i'r dref, am tua 16:30.

Cafodd pedwar cerbyd eu gyrru i'r safle, yn ogystal ag uwch swyddog i reoli'r sefyllfa.

Cafodd tân ei gynnau'n fwriadol yn yr adeilad ym mis Rhagfyr.

Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych sicrhau gorchymyn pryniant gorfodol wedi achos llys y llynedd, wedi blynyddoedd o bryderu am gyflwr yr adeilad rhestredig.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn hwyr nos Lun bod y tân wedi ei ddiffodd, ond bydd swyddogion yn parhau ar y safle am rhai oriau.