AS i ddadlau yn San Steffan am oed recriwtio'r fyddin

  • Cyhoeddwyd
Milwyr

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i gomisiynu adroddiad annibynnol ar recriwtio pobl ifanc dan 18 oed i'r fyddin.

Mae hyn yn dilyn pryderon am yr effaith hir dymor y mae recriwtio pobl dan 18 yn ei gael ar bobl ifanc.

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts AS, bod pobl ifanc yn fwy bregus na phobl hŷn wrth ystyried salwch iechyd meddwl a hunanladdiad.

Does gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim cynlluniau i godi'r oedran recriwtio - sef 16 ar hyn o bryd - gan ddadlau y gallai recriwtio yn ifanc fod o fudd i bobl ifanc.

Dywedodd Ms Saville Roberts: "Dwi'n bryderus mai ni yw'r unig wlad yn Ewrop sydd yn recriwtio pobl ifanc dan 18 oed."

Cyfeiriodd Ms Saville Roberts at adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan yr elusen feddygol Medact oedd yn dangos bod pobl ifanc sydd yn cael eu recriwtio yn fwy tebygol o ddioddef o straen PTSD yn dilyn digwyddiad erchyll, camdriniaeth alcohol, hunan niweidio, marwolaeth neu anafiad yn ystod eu gyrfa o gymharu â phobl hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ddadl yn cael ei chyflwyno gan Liz Saville Roberts AS yn Neuadd San Steffan brynhawn Mawrth

'Profiad bywyd'

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod recriwtiaid ifanc yn fwy tebygol o ymddangos ar y rheng flaen, a bod hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ddim yn cwrdd â gofynion cysyniad cydwybodol a llawn.

Ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mawrth, Dywedodd Dafydd Roberts o Langadog, sydd yn gyn filwr, nad ydio'n credu bod ymuno â'r fyddin yn 16 oed yn rhy ifanc.

"Mae 'na sgiliau da i'w dysgu yn y fyddin, rydych yn gallu mynd a'ch profiadau gyda chi ar ôl gadael," meddai.

"Mae'r profiad bywyd yr ydych yn ei ddysgu'n ifanc yn y fyddin yn well nag unrhyw brofiad bywyd y cewch chi mewn ysgol neu goleg."

Bydd y ddadl yn cael ei chyflwyno gan Ms Saville Roberts yn Neuadd San Steffan brynhawn Mawrth.