Canu a chanmol yr emynydd mawr

  • Cyhoeddwyd
panty

Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dathlu trichanmlwyddiant yr emynydd William Williams Pantycelyn ar ddydd Sul 12 Chwefror.

Mae'r gwasanaeth wedi ei recordio yn Eglwys Llanfair-ar-y-Bryn y yn Llanymddyfri lle mae Williams wedi ei gladdu.

Bydd yr Athro Wyn James o Brifysgol Caerdydd yn trafod bywyd a gwaith yr emynydd dylanwadol.

Yn y rhaglen, bydd perfformiadau gan y Tri Bariton a Chôr Bro Nest. Byddwn hefyd yn clywed rhai o'i emynau mwyaf poblogaidd o dan arweiniad Philip Watkins gyda Elaine Robbins ar yr organ.

Dechrau Canu Dechrau Canmol, S4C, Nos Sul, 12 Chwefror, 19:30, dolen allanol