'Pobl ifanc yn fwy tebygol o brofi e-sigaréts na thybaco'

  • Cyhoeddwyd
e-sigaréts

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o roi cynnig ar e-sigaréts na thybaco, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Er fod yr ymchwiliad wedi dangos nad oes unrhyw dystiolaeth bod e-sigaréts yn gwneud pobl ifanc yn fwy tebygol o ysmygu, mae yn dangos y gallai y defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc ddod yn fater iechyd cyhoeddus os na chaiff ei fonitro.

Nod ymchwilwyr yn y papur gafodd ei gyhoeddi yn y British Medical Journal Open oedd cynnal un o'r astudiaethau mwyaf o ddefnydd e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yn y DU.

Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn siomedig o weld bod arbrofi gydag e-sigaréts yn cynyddu ymhlith y boblogaeth ifanc.

Cynyddu'n sylweddol

Fe ofynnodd ymchwilwyr i bobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru, gan gynnwys ysmygwyr, pobl oedd yn arfer ysmygu a phobl sydd ddim yn ysmygu, ynghylch eu defnydd o e-sigaréts.

Ers 2013, daeth ymchwilwyr i'r casgliad bod nifer y bobl ifanc sy'n arbrofi gydag e-sigaréts wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru, a'i fod erbyn hyn bron i ddwywaith mor gyffredin ag arbrofi gyda thybaco.

Yn ol yr ymchwil, myfyrwyr hŷn a myfyrwyr sy'n ddynion sydd fwyaf tebygol o fod wedi defnyddio e-sigarét.

Roedd hefyd yn dangos cysylltiad agos rhwng defnydd alcohol, meffedron a nwy chwerthin gyda defnydd arbrofol o e-sigaréts.

Dywedodd Elen de Lacy, prif awdur yr astudiaeth: "Mae ein data yn awgrymu bod y defnydd o e-sigaréts yn cynyddu'n gyflym ymhlith pobl ifanc.

"Er nad oes tystiolaeth ar gael sy'n cysylltu hyn ag ysmygu, mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd a llunwyr polisïau yn bryderus y gallai e-sigaréts arwain at nifer o bobl ifanc sydd erioed wedi ysmygu, ddod yn gaeth i nicotin, petai'r defnydd cyson ohonynt yn dod yn gyffredin."

Ychwanegodd bod y defnydd cyson o e-sigaréts yn parhau yn isel, ond yn cynyddu.

"Os na chaiff hyn ei fonitro, gallai defnydd pobl ifanc o e-sigaréts arwain at broblem iechyd cyhoeddus ni waeth beth yw ei gysylltiad ag ysmygu."

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig gweld bod arbrofi gydag e-sigaréts yn cynyddu ymhlith pobl ifanc.

"Gall nicotin achosi dibyniaeth a niweidio'r ymennydd yn ystod cyfnod y glasoed, a dyna pham ein bod yn gweithio i atal y defnydd o e-sigaréts ymysg plant a phobl ifanc.

"Mae hyn yn cynnwys y ddeddfwriaeth ynglyn ag oed gwerthu a chyfyngiadau ar hysbysebu."

Cymerodd 32,479 o bobl ifanc o 87 o ysgolion yng Nghymru ran yn yr astudiaeth yn 2015. Casglwyd y data o Rwydwaith Iechyd mewn Ysgolion Cymru, partneriaeth ryngasiantaethol a arweinir gan DECIPHer gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a 113 o ysgolion uwchradd Cymru.