West End y cymoedd
- Cyhoeddwyd
Theatrau ysblennydd ac enwau rhai o sêr mwya'r byd theatr wedi eu goleuo yn llachar. Dyna sydd y eich croesawu i'r West End yn Llundain i geisio eich denu i weld y dramau a'r sioeau dirifedi. Ond sut beth fyddai ceisio creu chydig o'r naws yma yng nghymoedd y De? Dyna'n union ddigwyddodd adeg yr ail Ryfel Byd.
Yn Hydref 1940 roedd e'n beth prin iawn gweld rhai o actorion mwya'r West End yn perfformio tu hwnt i Lundain - yn enwedig yn Resolfen, Tredegar ac Abercwmboi. Ar y pryd y sêr mawr oedd Lewis Casson a'i wraig Sybil Thorndike. Roedd eu merch Ann Casson hefyd yn aelod o gwmni teithiol yr Old Vic.
Fe ddaeth Huw Davies, sy'n byw yn Ynyswen, o hyd i raglen y perfformiad o Macbeth, wedi ei arwyddo gan yr actorion enwog, ym marchnad Resolfen. Dechreuodd ymchwilio i'r hanes a holi pam ddaeth cwmni theatr yr Old Vic o Lundain i theatrau a chanolfannau de Cymru, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Un o'r pethau wnaeth fy nharo i oedd pam perfformio y ddrama Albanaidd yma mewn cyfnod mor dywyll? A rwy'n meddwl hefyd am y bobl leol yn yr ardal yn y cyfnod yn gweld y sêr 'ma yn dod i'r pentrefi a'r trefi, pobl fel Lewis Casson, Sybil Thorndike ac ati.
"Roedden nhw'n enwog iawn yn eu dydd. Roedd y bobl 'ma yn teithio i godi ysbryd adeg y rhyfel.
"Roedd hi'n gyfnod tywyll adeg y rhyfel, roedd fy nhad yn Gwnstabl Arbennig bryd hynny, a dwi'n cofio siarad â fe am gyfnod y blackout a bomiau yn syrthio yng Nghwmparc. Roedd popeth yn dywyll," meddai Huw Davies a gafodd ei eni yn Llwynpia a'i fagu yn Nhreorci.
Codi ysbryd
Yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, cafodd CEMA (Council for the Encouragement of Music and the Arts) ei sefydlu, rhagflaenydd Cyngor y Celfyddydau, ac o dan eu nawdd nhw fe deithiodd cwmni'r Old Vic o gwmpas de Cymru er mwyn codi ysbryd y bobl, a'r gred oedd y byddai gweld cwmni enwog yn perfformio dramâu safonol yn hyrwyddo gwerthoedd diwylliannol y wlad.
Ond roedd amgylchiadau'r daith yn anodd, fel yr eglura Huw Davies.
"Rwy wedi bod yn trio dychmygu sut fydde'r cwmni drama wedi bod yn teithio a chludo'r setiau a'r celfi, mewn un lori a bws. Fe wnaethon nhw gyflwyno 59 o berfformiadau a theithio i lot fawr o leoliadau yn yr ardal o Gasnewydd i'r Fenni, Trefynwy, Bargoed, Merthyr, Llanelli a llawer mwy.
"Roedd teithio o gwmpas de Cymru yn beryglus yn y cyfnod hwnnw, ac yn ôl y sôn fe ddisgynnodd bom yng Nghasnewydd ar noson agoriadol y daith a chafodd tŷ rheolwr y theatr lle roedd yr actorion Lewis Casson a Sybil Thorndike i fod i aros, ei ddinistrio."
"Mi fydda i'n mynd i weld Macbeth yng Nghaerffili, ac fe fydd yn wrthgyferbyniad rhwng Caerffili 2017 a Threorci yn 1940", ychwanegodd Huw Davies.