Mwy yn gwrando ar Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio

Mae'r niferoedd sy'n gwrando ar BBC Radio Cymru wedi codi o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

Bu cynnydd hefyd yn niferoedd gwrandawyr Radio Wales.

Erbyn diwedd y flwyddyn roedd 114,000 yn gwrando ar yr orsaf Gymraeg, yn ôl y ffigyrau ymchwil cynulleidfaoedd radio (RAJAR).

Mae'n gynnydd o'i gymharu â'r chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, lle'r oedd 101,000 o bobl wedi gwrando ar yr orsaf.

Rheiny oedd y ffigyrau gwrando isaf ers troad y ganrif.

Roedd 6,000 yn fwy o bobl wedi gwrando yn y chwarter diwethaf o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt (108,000).

Fe wnaeth Radio Wales hefyd weld cynnydd yn eu cynulleidfa, gan ddenu 375,000 o wrandawyr.