Gwaharddiad i fridiwr cŵn anghyfreithlon o Geredigion
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Geredigion wedi ei wahardd rhag bridio cŵn am bedair blynedd, wedi i rai cŵn gael eu canfod mewn cyflwr difrifol.
Yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth ddydd Iau, fe gafwyd Richard Jones, 31 oed o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan yn euog ar ddau gyfrif o fridio cŵn yn anghyfreithlon a 21 cyfrif o achosi dioddefaint diangen.
Cafodd Jones ei ddedfrydu i naw wythnos o garchar gohiriedig, wedi i Gyngor Sir Ceredigion ei erlyn yn dilyn dau gyrch ar ei adeiladau ger Llanbed fis Mehefin y llynedd.
Clywodd y llys nad oedd gan Jones, a gafwyd yn euog o'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad cynharach, drwydded bridio ar gyfer dau adeilad - "Y Sied" a fferm Moelfre.
Yn dilyn ymweliad gan swyddogion, fe ddaethpwyd o hyd i gŵn mewn tywyllwch llwyr, yn dioddef o gyflyrau ar eu crwyn, gydag un ci bach mor denau fel ei fod bron â marw.
Ers 2010, roedd Jones wedi bod yn cadw 70 o gŵn mewn adeilad wedi ei gofrestru ger Llanbed, a oedd yn cael ei adnabod fel "Y Sied".
Cafodd y drwydded ei hadnewyddu bob blwyddyn tan 2015, pan benderfynodd yr awdurdod lleol beidio ag adnewyddu'r drwydded oherwydd pryderon.
Wnaeth Jones ddim cais yn 2016, ond parhaodd i fridio. Wrth chwilio adeiladau'r Sied a fferm Moelfre ym mis Mehefin 2016, daeth swyddogion o hyd i 56 ci yn y Sied, ac 19 ci a 38 ci bach ym Moelfre. Roedd 113 o gŵn yn dioddef i gyd.
Yn ôl milfeddyg a archwiliodd yr anifeiliaid, roedd y cŵn yn dioddef o straen meddyliol, a heb gael ymarfer corff na chyswllt cymdeithasol, gan fod y rhan fwyaf o'r cŵn yn cael eu cadw ar eu pennau eu hunain.
Roedd eu crwyn mewn cyflwr gwael gan achosi dioddefaint iddyn nhw am wythnosau os nad misoedd.
Honnodd yr amddiffyniad ar ran Jones ei fod wedi'i siomi'n fawr pan wrthodwyd ei gais am drwydded yn 2015, am ei fod wedi buddsoddi'n helaeth yn Y Sied, a'i fod yn credu fod yr awdurdod wedi gorymateb yn y modd y delion nhw ag e.
Clywodd y gwrandawiad mai Jones oedd yr unig aelod o'i deulu oedd yn ennill cyflog ers marwolaeth ei dad, ac os na fyddai wedi gallu gweithio gyda chŵn, fyddai e ddim wedi gallu gweithio fel ffermwr defaid a pharhau i gefnogi'r teulu.
Yn 2016 cafodd Jones driniaeth am iselder, ac oherwydd hyn, roedd wedi ei chael hi'n anodd gofalu am yr anifeiliaid cystal ag y byddai fel arfer.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd cadeirydd yr ynadon y dylai Jones fod yn llwyr ymwybodol o'r gofynion wrth fridio cŵn, ac nad oedd wedi gwneud ymdrech i gwrdd â'r safonau hynny.
Cafodd ei ddedfrydu i naw wythnos o garchar gohiriedig am 18 mis, a gorchymyn i gwblhau 200 awr o wasanaeth cymunedol.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag cadw cŵn am bedair blynedd, a gorchmynnodd y llys bod pob ci yn cael ei symud o'i adeiladau erbyn 2 Mawrth.