Dydd Miwsig Cymru yn dathlu 'talent aruthrol'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Dydd Miwsig Cymru yn galw ar bobl i rannu eu hoff gân Gymraeg ar wefannau cymdeithasol ddydd Gwener, wrth i'r dathliad gael ei gynnal am yr ail flwyddyn.
Bwriad y diwrnod yw dathlu cerddoriaeth Gymraeg a rhannu'r "talent aruthrol sydd yng Nghymru" gyda'r holl wlad a gweddill y byd, yn ôl y cyflwynydd radio, Huw Stephens.
Stephens sy'n arwain y dathliad, fydd yn gweld perfformiadau a digwyddiadau celf yn cael eu cynnal.
Ymhlith y cefnogwyr mae prif weinidog Cymru, ddywedodd bod y "safon ac amrywiaeth y gerddoriaeth sydd ar gael yn anhygoel ac yn gwbl unigryw".
'Talent aruthrol'
Mae'r trefnwyr yn galw ar bobl i fynd i weld gig neu lawrlwytho rhestr chwarae arbennig, a rhannu'r profiad gyda rhywun sydd ddim yn ymwybodol o gerddoriaeth Cymraeg.
Dywedodd Stephens bod "cerddoriaeth Gymraeg yn haeddu cael ei dathlu" a bod y diwrnod yn ffordd o "gael y wlad gyfan a dilynwyr cerddoriaeth y byd yn ymwybodol ohoni ac i fod yn rhan o'r dalent aruthrol sydd gennym yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Dwi'n hyderus y bydd y diwrnod yn cyflwyno llawer o bobl i gerddoriaeth anhygoel na fydden nhw efallai erioed wedi clywed fel arall."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones bod "Cymru'n enwog am ei cherddoriaeth a cherddorion gwych".
"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni ac mae diwrnod cerddoriaeth Gymraeg yn gyfle i rannu ein hoff ganeuon a darganfod y cyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd," meddai.