Esgob! Mwy o bres!
- Cyhoeddwyd
Mae'n siwr bod nifer ohonoch yn gyfarwydd gyda'r traddodiad o gasglu arian yn ystod gwasanaeth. Ond faint ohonoch chi oedd yn gwybod mai un o arweinwyr eglwysig Cymru sydd o bosib wedi dylunio'r darnau arian y byddwch chi yn eu rhoi yn y blwch?
Mae'r Gwir Barchedig Gregory Cameron wedi bod yn Esgob Llanelwy ers wyth mlynedd ond datblygiad diweddar iawn yw ei berthynas gyda'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.
Ym mis Mai 2016 cafodd cynllun yr Esgob Gregory ei ddewis ar gyfer darn punt crwn ola'r bathdy. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cafodd cynllun arall o'i eiddo ei ddewis fel y darn arian cyntaf gan y Bathdy Brenhinol i nodi'r Nadolig. Ac ychydig wythnosau yn ôl fe gyrhaeddodd yr Esgob yr hat-tric gyda chynllun ar gyfer darn arian i nodi pen-blwydd saffir (65 mlynedd) teyrnasiad y Frenhines Elizabeth. Bu'n egluro wrth Cymru Fyw sut y datblygodd ei gyfraniad annisgwyl:
Rwy' wedi bod â diddordeb mewn darnau arian ers fy mhlentyndod ac mae herodraeth (heraldy) ac arlunio ymhlith fy niddordebau ysol eraill. Yn y gorffennol rwy' wedi cynllunio ambell beth herodrol arall, megis arfbais Archesgob Rowan Williams ac elfennau o Hunaniaeth Gorfforaethol yr Eglwys yng Nghymru.
Cynllun munud ola!
Yr hyn wnaeth fy sbarduno oedd cystadleuaeth y Bathdy Brenhinol i gynllunio'r darn £1 saith ochr newydd. Fe luniais ddau gynllun yn seiliedig ar flodau cenedlaethol pedair cenedl Prydain, ac yna ar yr eiliad olaf un, fe euthum ati i greu cynllun yn seiliedig ar fwystfilod herodrol y cenhedloedd rheini sef Draig Cymru, Uncorn yr Alban, Llew Lloegr, a Hydd Gogledd Iwerddon, ond dim ond rhyw 10 munud oedd gen i felly cynllun munud olaf go iawn oedd e!
Rai wythnosau wedyn, cefais alwad ffôn oddi wrth y Bathdy Brenhinol gyda newyddion da a newyddion drwg. Er nad oedd un o fy nghynlluniau wedi eu dewis ar gyfer y darn £1 newydd, roedd yr un yn cynnwys y bwystfilod wedi ei ddewis ar gyfer cynllun y £1 crwn olaf dathliadol.
Bu'n rhaid i mi fynd ati a chreu cynllun tipyn gwell wedyn cyn i'r Bathdy fathu'r darn £1 cyntaf.
Roedd cynllun y darn ar gyfer y Nadolig, sef darn arian £20, yn fwriadol symlach gan bod drama'r geni yn rhywbeth y mae pob plentyn yn gyfarwydd ag e ac wedi bod yn rhan ohono ar hyd a lled y wlad. Ond wrth gwrs mae hanes geni Crist yn rhywbeth y tu hwnt i unrhyw amser na lle penodol, ac yn y darlun mae Crist â'i freichiau ar agor i'r byd.
Mae'r cynllun i ddathlu 65 mlynedd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth yn cynnwys cangen olewydd sef sumbol o ffyddlondeb a chymod ac ar yr ymyl arall, cangen dderi i symboleiddio sefydlogrwydd a theyrngarwch wrth wasanaethu. Dyma'r pethau rwy i'n ei deimlo sy'n nodweddu teyrnasiad y Frenhines.
Mae hyn i gyd wedi bod yn andros o hwyl. O ran y dyfodol, mae gan y Bathdy Brenhinol fy rhif ffôn!